Sicrhau cydymffurfiaeth: Systemau a rheolaethau ariannol - gofynion parhaus

Gofynion parhaus systemau ariannol. Camau gweithredu:

Cofnodion ariannol a chyfrifyddu

Mae angen i'ch busnes cymdeithasol gadw cofnodion ariannol a chyfrifyddu cywir. Mae angen paratoi cyfrifon blynyddol fel arfer am gyfnod o 12 mis hyd at eich dyddiad cyfeirio cyfrifyddu, h.y. diwedd eich blwyddyn gyfrifyddu (diwedd y flwyddyn ariannol). Pennir eich dyddiad cyfeirio cyfrifyddu pan fyddwch yn sefydlu'r busnes am y tro cyntaf er y gallwch ei newid drwy eich rheoleiddiwr.

Bydd lefel y manylder sydd i'w gynnwys yn eich cyfrifon yn dibynnu ar faint ariannol eich busnes, gyda llai o fanylion yn ofynnol gan sefydliadau llai.

Adnoddau:

Rhedeg Cwmni Cyfyngedig

Paratoi Cyfrifon Blynyddol ar gyfer Cwmni Cyfyngedig 

Cadw cofnodion

Dylid cadw cofnodion busnes am o leiaf 6 blynedd o ddiwedd eich cyfnod cyfrifyddu (diwedd y flwyddyn ariannol).

Adnoddau:

Rhedeg Cwmni Cyfyngedig 

Ffeilio Cyfrifon Blynyddol

Cynhyrchu a ffeilio adroddiadau a chyfrifon blynyddol gyda rheoleiddiwr o fewn terfynau amser penodol. Mae hyn fel arfer o fewn 9 mis i ddiwedd eich blwyddyn gyfrifyddu ar gyfer Tŷ'r Cwmnïau, 10 mis i'r Comisiwn Elusennau ac o fewn 6 mis i’r CCB ar gyfer Cymdeithasau sydd wedi’u cofrestru â’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Bydd fformat eich cyfrifon yn cael ei bennu gan statws cyfreithiol eich busnes.

Adnoddau:

Cyfrifon a Ffurflenni Treth

Ffurflenni Blynyddol yr FCA ar gyfer Cymdeithasau Cydfuddiannol

Paratoi Cyfrifon Blynyddol Elusennau 

Archwilio cyfrifon

Dylid archwilio cyfrifon neu eu harchwilio'n annibynnol yn unol â gofynion eich rheoleiddiwr a’r cyd-destun cyfreithiol perthnasol. Mae eithriadau archwilio ar gyfer cwmnïau bach a llai o ofynion adrodd ar gyfer elusennau llai.

Rhoddir rheolau hefyd ynghylch pwy all fod yn archwilydd neu'n arholwr annibynnol, ond fel egwyddor gyffredinol, dylai hyn fod yn archwilydd neu'n unigolyn heb unrhyw fuddiant personol nac uniongyrchol yn eich busnes.

Adnoddau:

Eithriad Archwilio ar gyfer Cwmnïau Cyfyngedig Preifat 

Adrodd a Chyfrifyddu ar gyfer Elusennau 

Awdurdodau treth

Mae treth yn berthnasol i bob busnes waeth beth fo'i statws cyfreithiol a'i sefyllfa elusennol. Mae angen i chi ystyried a rhoi cyfrif am Dreth Gorfforaeth, Talu Wrth Ennill, Yswiriant Gwladol a TAW fel y bo'n briodol.

Adnoddau:

Treth Gorfforaeth 

TAW Busnes 

TAW Elusennol 

Cyfreithiau Codi Arian

Mae cyfreithiau a rheoliadau penodol yn berthnasol i godi arian os yw eich busnes wedi'i gofrestru fel elusen. Gall unrhyw sefydliad gymhwyso'r Cod Ymarfer Codi Arian fel arfer da.

Adnoddau:

Cod Codi Arian

 

Yn yr adran hon:

Eisiau trafod y pwnc ymhellach? Cysylltwch sbwenquiries@wales.coop neu eich Cynghorydd Busnes penodedig.