Sicrhau cydymffurfiaeth: Systemau a chofnodion llywodraethu

Sefydlu a gofynion parhaus. Camau gweithredu:

Cytuno ar amserlen cyfarfodydd y Bwrdd

Cytuno ar amserlen cyfarfodydd y Bwrdd (ac unrhyw is-bwyllgorau) ar gyfer y flwyddyn i ddod.  Mae'n arfer da cynllunio ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd y Bwrdd drwy gydol y flwyddyn gan gynnal cyfarfodydd chwarterol o leiaf. 

Adnoddau:

Cofrestrau o aelodau, aelodau'r Bwrdd ac ati. 

Sefydlwch eich cofrestrau ar gyfer cofnodi manylion aelodau, aelodau'r Bwrdd a swyddogion. Gall y rhain fod yn electronig neu ar bapur.

Yr allwedd bob amser yw cadw’r wybodaeth yn gyfredol er budd ffurflenni blynyddol ac adroddiadau'r rheoleiddiwr.

Adnoddau:

Templedi ar gyfer cofrestr eich cwmni:

Cofrestr buddiannau

Sefydlwch gofrestr buddiannau ar gyfer aelodau eich Bwrdd fel rhan o'ch gwaith o fonitro gwrthdrawiad buddiannau. Dylai pob aelod Bwrdd ddarparu ffurflen ddatganiad yn nodi eu buddiannau unigol mewn sefydliadau eraill fel bod eich busnes yn ymwybodol o’r dechrau o unrhyw wrthdaro posibl a allai godi.

Dylai aelodau'r Bwrdd gwblhau datganiad blynyddol i sicrhau bod y gofrestr buddiannau’n gyfredol.

Adnoddau:

Tŷ'r Cwmnïau: Dyletswyddau Cyfarwyddwyr 

Comisiwn Elusennau:  Canllaw Gwrthdrawiad Buddiannau 

Dirprwyaethau ysgrifenedig - dirprwyaethau ariannol 

Nodwch unrhyw is-bwyllgorau a dirprwyaethau sydd eu hangen a datblygwch y cylch gorchwyl priodol ac awdurdodau dirprwyo ysgrifenedig.

Calendr o ddyddiadau llywodraethu busnes a gweithredol allweddol

Sefydlwch galendr sy'n mapio dyddiadau allweddol dros gyfnod o 12 mis. Cynhwyswch gyfarfodydd y Bwrdd, Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol, terfynau amser adrodd rheoleiddiol, dyddiadau adnewyddu ar gyfer contractau a pholisïau allweddol, dyddiadau adrodd prosiectau ac ati.

Adnoddau: