Rheoli pobl: Defnyddio contractwyr a gweithwyr llawrydd

Meysydd i’w hystyried:

Statws

Nid yw contractwyr a gweithwyr llawrydd yn gyflogeion i'r busnes. Maent yn unigolion annibynnol sydd wedi'u contractio i ddarparu gwasanaethau i'r busnes o dan 'gontract am wasanaethau'.

Fel busnes, rydych chi’n dal i fod yn gyfrifol am eu hiechyd a'u diogelwch tra byddwch ar eich safle ac am gael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ac yswiriant cyflogwyr priodol.

Defnyddir contractwyr yn aml pan nad oes digon o gapasiti yn fewnol i ddarparu gweithgaredd penodol sy'n gaeth i amser neu pan fo angen mewnbwn arbenigol.

Dylid cymryd gofal wrth gyflogi gweithwyr ar sail hunangyflogedig neu drwy gwmni cyfryngol os ystyrir bod y rôl yn gyfystyr â 'chyflogai', gan fod hyn yn cael ei ystyried yn waith oddi ar y gyflogres a gallai eich busnes barhau i fod yn atebol am daliadau Talu Wrth Ennill ac Yswiriant Gwladol. Rhaid i bob contractwr a gweithiwr llawrydd fod â Chyfeirnod Trethdalwyr Unigryw.

Canllawiau pellach:

Mathau o Gontractau a Chyfrifoldebau Cyflogwyr

Deall Gweithio Oddi ar y Gyflogres

Gwirio Statws Cyflogaeth ar gyfer Treth

Penodi contractwyr a gweithwyr llawrydd:

Wrth benodi contractwyr a gweithwyr llawrydd, bydd angen i chi ddiffinio'n glir pa wasanaethau y mae angen iddynt eu darparu – manyleb y gwasanaethau. Dylech hefyd ystyried sut y byddwch yn gwerthuso'r ceisiadau a gewch, e.e. meini prawf sgiliau a gwybodaeth penodol, gwerth am arian ac ati.

Dylai'r fanyleb ysgrifenedig nodi:

  • beth sydd i'w wneud
  • pwy sy'n gyfrifol am beth
  • amserlenni ar gyfer cwblhau tasg(au)
  • sut y caiff cyflawniad ei fesur meini prawf perfformiad manwl gan gynnwys dangosyddion perfformiad allweddol
  • targedau, manteision a disgwyliadau

Dylech ddefnyddio proses ddethol a gofyn am ddyfynbrisiau gan wahanol gontractwyr i asesu pwy sy'n diwallu eich anghenion orau.

Dylid dyfarnu contract i gontractwyr penodedig ar gyfer gwasanaethau sydd â thelerau ac amodau clir ar gyfer cyflawni, monitro a thalu.

Contract ar gyfer Gwasanaethau

Dylech nodi cytundeb ysgrifenedig ffurfiol gyda'r contractwr – contract ar gyfer gwasanaethau. Dylai hyn roi disgrifiad o'r dyletswyddau neu wasanaethau sydd i'w cwblhau a'r pris sydd i'w dalu yn ogystal â thelerau ac amodau contractiol o ran hawliau a rhwymedigaethau'r ddau barti.

Mae ymrwymo i gytundeb ffurfiol yn helpu i sicrhau bod gan eich busnes ddigon o opsiynau pan fydd anghydfodau neu anghytundebau.

Bydd angen i chi roi proses ar waith ar gyfer rheoli'r contract er mwyn sicrhau bod y contractwr yn darparu gwasanaethau yn unol â'r cytundeb.

 

Yn yr adran hon:

Eisiau trafod y pwnc hwn ymhellach? Cysylltwch â sbwenquiries@wales.coop neu eich Cynghorydd Busnes penodedig.