Sicrhau cydymffurfiaeth: Systemau a gweithdrefnau AD

Gofynion Sefydlu Systemau AD:

Contractau Cyflogaeth

Bydd angen i bob cyflogai gael contract cyflogaeth gyda'ch busnes cymdeithasol yn nodi gwybodaeth allweddol am amodau, hawliau, dyletswyddau a chyfrifoldebau cyflogaeth.

Bydd angen i'ch busnes ddatblygu contract cyflogaeth gan ddefnyddio cyngor cyfreithiol lle bo hynny'n briodol.

Canllawiau pellach:

Contractau Cyflogaeth 

Llawlyfr staff

Llyfr a roddir i gyflogeion gan gyflogwr yw llawlyfr staff. Fel arfer, mae'r llawlyfr cyflogeion yn cynnwys gwybodaeth am ddiwylliant, polisïau a gweithdrefnau'r cwmni ac fe'i darperir i staff cyflogedig gyda'u contract cyflogaeth.

DS Bydd y berthynas newydd rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r DU, sydd bellach y tu allan i'r farchnad sengl a’r undeb tollau, yn effeithio ar gyflogi staff o'r Undeb Ewropeaidd.

Canllawiau pellach:

Busnes Cymdeithasol Cymru - Cyflogi Pobl: Adran 4 ar gyfer y llawlyfr cyflogeion

Llawlyfr gwirfoddolwyr

Os yw eich busnes cymdeithasol yn defnyddio gwirfoddolwyr, yna dylech hefyd ystyried datblygu llawlyfr neu lyfryn gwybodaeth i wirfoddolwyr i roi crynodeb i wirfoddolwyr o'r wybodaeth allweddol y bydd ei hangen arnynt i gyflawni eu rolau.

Dylid sefydlu polisïau priodol ar gyfer recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr.

Canllawiau pellach:

Adnoddau Gwirfoddoli CGGC 

Polisi Gwirfoddoli Enghreifftiol CGGC 

Polisïau a Gweithdrefnau

Bydd angen i'ch busnes fod â nifer o bolisïau AD ar waith o'r cychwyn cyntaf.

DS Bydd y berthynas newydd rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r DU, sydd bellach y tu allan i'r farchnad sengl a’r undeb tollau, yn effeithio ar gyflogi staff o'r Undeb Ewropeaidd.

Canllawiau pellach:

Polisïau Adnoddau Dynol 

Cysylltwch â'ch Cynghorydd Busnes penodedig i gael mynediad at restr gynhwysfawr o bolisïau AD a ddatblygwyd gan wasanaeth Dechrau Newydd Busnes Cymdeithasol Cymru neu e-bostiwch sbwenquiries@wales.coop

System y gyflogres a 'Gwybodaeth Amser Real'

Gweler Sicrhau cydymffurfiaeth: Systemau ariannol

Canllawiau pellach:

Talu Wrth Ennill a'r Gyflogres 

Cofrestriad CThEM – Cyflogwr

Gweler Sicrhau cydymffurfiaeth: Systemau ariannol

Canllawiau pellach:

Cofrestru fel Cyflogwr 

Cymorth AD

Bydd angen i chi roi dull ar waith o sicrhau cymorth AD i'ch busnes. Gallai hyn fod drwy aelod o'r Bwrdd neu weithiwr sy'n gyfrifol am staff. Fel arall, efallai yr hoffech gyflogi ymgynghorwyr AD neu gyfreithwyr allanol i'ch cefnogi mewn tasgau penodol.

 

Yn yr adran hon: