Covid-19 Datblygu Ymchwil ac Arloesi – Atebion Ymchwil a Datblygu a ddarperir gan Fusnesau a Sefydliadau Ymchwil Cymru
Mae pandemig y coronafeirws wedi creu nifer o heriau i ni ac wedi effeithio ar ein gallu i gyflenwi cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau sy’n bodloni’r galw cynyddol am wasanaethau’r GIG a gwasanaethau gofal.
Mae Llywodraeth Cymru gefnogi busnesau a sefydliadau ymchwil blaengar yng Nghymru er mwyn cyflawni’r atebion sy’n mynd i’r afael â’r heriau hyn.
Mae’r heriau’n cynnwys:
- Datblygu a chyflenwi peiriannau anadlu a dyfeisiau meddygol eraill
- Rheoli clefydau a datblygu profion ar eu cyfer
- Bodloni’r galw am Gyfarpar Diogelu Personol
- Datblygu technegau a chynhyrchion diheintio cyflym
I weld rhai enghreifftiau o sut mae ein cefnogaeth yn gweithio - Cliciwch Yma
Hoffem glywed gennych os oes gennych syniad ar gyfer prosiect ymchwil a datblygu er mwyn datblygu cynnyrch neu broses gwell neu newydd.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Tachwedd 2020.
Mae gennym broses ymgeisio syml ar gyfer cyflwyno cynnig. Cewch gymorth gan ein tîm o Arbenigwyr Arloesi profiadol iawn a fydd yn cynnig cyngor ynghylch yr opsiynau sydd ar gael, fel y gallwn elwa i’r eithaf ar eich syniadau arloesol.
Cysylltwch â’n tîm ar COVID19.Innovation@gov.wales i gael rhagor o wybodaeth
