Porth Arloesi Cymru

Sefydliad |
UK National Scientific Labs
Closing date: 30/11/2021

Cefnogi Gallu Technolegol a Datblygu Cynnyrch yng Nghymru – Porth i Seilwaith Gwyddonol Cenedlaethol y DU

Mae labordai cenedlaethol y DU (NPL, NML@LGC, NEL a'r STFC)* yn dod at ei gilydd i gynnig y gallu, yr arbenigedd a'r cyfleusterau mwyaf datblygedig yn dechnolegol sydd ar gael yn y DU mewn dull rhanbarthol un pwynt mynediad digynsail, "Porth Arloesi Cymru". Bydd y cydweithio hwn yn rhoi mwy o gyfleoedd i gwmnïau ysgogi buddsoddiad gwerth biliynau o bunnoedd gan lywodraeth y DU yn y cyfleusterau uwch hyn i gefnogi economi'r DU a helpu i gyflymu arloesedd. Bydd Porth Arloesi Cymru yn helpu cwmnïau i lywio'r dirwedd sy'n aml yn gymhleth a chysylltu'n gyflym â'r adnodd priodol mewn modd symlach. Bydd Porth Arloesi Cymru yn symleiddio ac yn 'lefelu' y tir gan ddod â'r asedau cenedlaethol hyn at ei gilydd i un pwynt ymholi lle gall cwmnïau ymgysylltu'n hawdd ag unrhyw ran o'r asedau cenedlaethol hyn a chael cyngor technegol cyflym a pherthnasol.

Gallai'r mathau o gymorth sydd ar gael amrywio o gymorth gyda datblygu cynnyrch newydd, cymorth i optimeiddio proses neu gynnyrch, hyd at oresgyn materion cynhyrchu sy'n ymddangos yn anhyblyg. Dylai'r ymholiadau fod yn her neu gael eu harwain gan broblemau gan ganiatáu i'r arbenigwyr ddod â'u profiad i gynllunio atebion arloesol. Bydd panel o arbenigwyr o bob un o'r sefydliadau hyn yn archwilio ac yn cyfeirio ymholiadau at yr arbenigwr neu'r gallu priodol o fewn y grŵp ehangach neu gyfeirio at y camau nesaf os byddai dull presennol neu ategol yn fwy addas. Bydd Porth Arloesi Cymru yn gweithio'n agos gyda rhwydwaith Innovate UK a KTN a'r byd academaidd i sicrhau ymgysylltiad effeithiol â rhwydwaith ymchwil ehangach y DU a'r tirlun ariannu.  Nid oes ffi am ddefnyddio'r porth hwn; mae'r cyngor ac unrhyw gyfeirio am ddim ond nid yw Porth Arloesi Cymru mewn sefyllfa i ariannu prosiectau'n uniongyrchol na chynnig gwasanaethau ysgrifennu ceisiadau.

Nod y fenter yw sicrhau'r ymgysylltiad mwyaf â BBaChau, gostwng rhwystrau a darparu cyngor effeithiol ac amserol wrth gyfeirio ymholiadau technegol at bartner arloesi addas p'un a yw hynny o fewn prifysgol leol neu mewn labordy cenedlaethol ar raddfa fawr. Bydd yn dwyn ynghyd ystod eang o bartneriaid, sgiliau ac arbenigedd gan roi cyfle i bawb ymgysylltu'n effeithiol a helpu i sbarduno economi'r DU.


Cyflwynwch eich ymholiad gan ddefnyddio'r ffurflen yn y ddolen ganlynol:

Arloesi Cymru Ffurflen Broblemau/Datganiad o Heriau | Business Wales - Expertise Wales (gov.wales)

Unwaith y byddwch wedi ei chwblhau anfonwch y ffurflen at: innovationportal@stfc.ac.uk

 

*NPL: Labordy Ffisegol Cenedlaethol (https://www.npl.co.uk/

*NML@LGC: Labordai Mesur Cenedlaethol yn LGC (https://www.lgcgroup.com/uk-national-measurement-laboratory/)

*NEL: Labordy Peirianneg Cenedlaethol (https://www.tuvsud.com/en-gb/industries/chemical-and-process/flow-measurement)

*STFC: Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (rhan o UKRI) (https://stfc.ukri.org/)

Cyswllt UK National Scientific Labs

Read our privacy policy here
The information will be sent directly to the organisation who has created this listing, this information is also shared with the Expertise Wales team.  See the full terms and conditions