Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Galwad Cymrodoriaeth Meddygaeth Fanwl

Health and Care Research Wales

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn ariannu seilwaith mawr i gefnogi ymchwil drosiadol a chymhwysol i iechyd a gofal cymdeithasol. Mae llawer o'r seilwaith hwn naill ai'n cynnal ymchwil meddygaeth fanwl arloesol yn uniongyrchol neu’n gweithredu fel llwyfan ar gyfer darganfyddiadau meddygaeth fanwl o safon uchel yn awr neu yn y dyfodol. Gyda’i gilydd, mae cyfanswm buddsoddiad Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru mewn meddygaeth fanwl dros £31miliwn. Ynghyd â buddsoddiadau eraill Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, mae'n amlwg bod sylfaen gadarn i adeiladu arni yng Nghymru.

Mae'n bwysig i fuddsoddiadau mewn ymchwil meddygaeth fanwl yng Nghymru fod wedi eu halinio’n strategol a bod adrannau perthnasol yn Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'i gilydd mewn dull di-dor ar draws sbectrwm trosiadol ymchwil. Mewn cydnabyddiaeth o hyn, mae adrannau Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i fanteisio i'r eithaf ar y cyllid sydd ar gael drwy gynlluniau Ewropeaidd i adeiladu a chryfhau’r sylfaen ymchwil mewn meysydd 'Her fawr' o angen sydd heb ei ddiwallu.

Bydd datblygu cynllun cymrodoriaeth meddygaeth fanwl yn gymorth i ehangu ymchwil a meithrin gallu mewn meysydd o angen sydd heb ei ddiwallu, tra'n manteisio ar Gronfeydd Strwythurol yr UE a reolir yng Nghymru gan WEFO. Mae dull o'r fath yn lleihau dyblygu mewn cyllid ac yn sicrhau mwy o amlygrwydd a chydnabyddiaeth ryngwladol i ymchwil o safon uchel yng Nghymru.

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru - galwad Meddygaeth Fanwl

Mae galwad ar wahân Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru am gymrodoriaethau sy’n berthnasol i feddygaeth fanwl (yn rhaglen Sêr Cymru II WEFO) ar agor yn awr. Bydd cymrodoriaethau yn 3 blynedd o hyd ac yn cael eu hariannu'n rhannol gan y Comisiwn Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru. Mae’n ofynnol i ymgeiswyr gysylltu â’r sefydliad y byddant o bosibl yn seiliedig ynddo (fydd yn darparu gweddill yr arian cyfatebol) i drafod eu prosiect arfaethedig cyn cyflwyno cais. Mae cydweithio gyda phartner masnachol perthnasol sy’n seiliedig yng Nghymru yn ddymunol. Disgwylir i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o ymrwymiad clir i yrfa mewn ymchwil a dangos sut y bydd y dyfarniad yn cefnogi’r potensial i ddod yn ymchwilydd annibynnol.

Canolbwynt yr alwad

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cefnogi ymchwil drosiadol gyda chanolbwynt penodol ar ymchwil gymhwysol ac iechyd y cyhoedd. I gynorthwyo ymgeiswyr i ddatblygu a llunio eu syniadau, mae papur sefyllfa, sy’n amlinellu'r mentrau yn y dyfodol mewn meddygaeth arbrofol a manwl, ar gael drwy www.healthandcareresearch.gov.wales.

Nid yw’r meysydd a awgrymir yma yn rhestr gyflawn o gwbl ond eu nod yw rhoi syniad am gwmpas yr ymchwil sy’n gymwys ar gyfer Dyfarniad Cymrodoriaeth Meddygaeth Fanwl:

  • Ymchwil mewn meysydd o angen clinigol sydd heb ei ddiwallu, sy'n canolbwyntio ar haenu poblogaethau cleifion fel sylfaen i ddatblygu triniaethau / ymyriadau gwell;
  • Ymchwil sy'n defnyddio casgliadau meinweoedd sydd ar gael ar hyn o bryd yng Nghymru ar gyfer darganfod/gwerthuso biofarcwyr;
  • Ymchwil sy’n canolbwyntio ar ddarparu a ffurfweddu gwasanaeth yn well ar gyfer meddygaeth fanwl.

Cymhwyster

Mae cynllun Cymrodoriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn agored i ymchwilwyr sydd wedi eu lleoli o fewn GIG Cymru (megis meddygon, deintyddion, nyrsys, bydwragedd, proffesiynau cysylltiedig ag iechyd a gwyddonwyr clinigol) a Sefydliadau Addysg Uwch Cymru (SAU). Dylai ymgeiswyr sy'n seiliedig mewn Sefydliadau Addysg Uwch ddangos y bydd y prosiect wedi ei seilio ar gysylltiadau cryf a chydweithio gyda GIG Cymru. Dylai ymgeiswyr o sefydliadau GIG Cymru gysylltu â’u Sefydliadau Addysg Uwch perthnasol i ddod o hyd i arolygydd perthnasol ac i geisio nawdd ( mae rhestr o enwau cyswllt ar gyfer Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru i’w gweld yma: https://businesswales.gov.wales/expertisewales/cy/rhestr-o%E2%80%99r-se…). Mae'r meini prawf cymhwyster yn cynnwys y canlynol:

  • Rhaid i ymgeiswyr feddu ar PhD, MD DU neu ddoethuriaeth broffesiynol arall, sy'n seiliedig ar ymchwil, mewn ymchwil sy'n gysylltiedig ag iechyd.

  • Rhaid i ymgeiswyr fod yn seiliedig mewn sefydliad neu gorff yng Nghymru ar adeg gwneud cais ac yn meddu ar ddim mwy na 60 mis o brofiad ymchwil ôl-ddoethuriaeth cyfwerth ag amser llawn.

  • Rhaid i gais gael ei gefnogi gan y sefydliad y mae’r ymgeisydd yn seiliedig ynddo a chael ei gefnogi gan uwch academydd wedi ei enwi neu gydweithiwr yn y GIG.

  • Gall ymgeiswyr fod o unrhyw genedl

  • Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno ffurflen gais wedi'i chwblhau

  • Rhaid i geisiadau gydymffurfio â’r egwyddorion moeseg sylfaenol

  • Rhaid i ymgeiswyr gael cefnogaeth y sefydliad y maent wedi dewis bod yn seiliedig ynddo.

Bydd y tîm rheoli yn gwrthod ceisiadau nad ydynt yn bodloni'r meini prawf neu nad ydynt yn glynu at y canllawiau a roddir yma.

Cyllid

Gall cost y prosiect fod hyd at £208,000 gyda uchafswm o £178,000 yn gyflogau (gan gynnwys cyfraniadau pensiwn ac yswiriant gwladol), uchafswm o £27,000 ar gyfer nwyddau traul ac uchafswm o £3,000 ar gyfer gwaraint cysylltiedig (teithio a chynhaliaeth a chostau cyhoeddi) . Cynghorir ymgeiswyr sydd angen cyflogau dros £45,000 y flwyddyn i gysylltu â’u noddwr o fewn y sefydliad addysg uwch neu GIG perthnasol.

Mae galwad Meddygaeth Fanwl Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ar y cyd â Chronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewrop a reolir gan WEFO. Bydd cyfraniadau gan arianwyr felly yn dibynnu ar leoliad daearyddol yr ymgeisydd llwyddiannus. Caiff y cyllid a rennir ei seilio ar y ffigurau canrannol [ar dudalen flaen

https://businesswales.gov.wales/expertisewales/s%C3%AAr-cymru-ii-early-career-fellowships-and-%E2%80%98rising-star%E2%80%99-scheme]

Y Broses Ymgeisio

Bydd angen i ymgeiswyr gynnig prosiect addas i gael ei gynnal mewn Sefydliad yng Nghymru y maent yn seiliedig ynddo. Dylid disgrifio'r prosiectau mewn dim mwy na 12 tudalen ynghyd â chwblhau’r ffurflen gais briodol.

Caiff y prosiect ymchwil ei greu gan yr ymgeisydd, ond rhaid iddo drafod hwn gyda'i ddarpar oruchwyliwr cyn cyflwyno.

Dylai ymgeiswyr hefyd gyflwyno copi o’u CV diweddaraf, heb fod yn fwy na 3 tudalen o hyd. Dylai hwn gynnwys gwybodaeth am eu haddysg, eu cyflogaeth flaenorol a phrofiad perthnasol arall, gwybodaeth am unrhyw seibiannau yn ystod eu gyrfa a gymerwyd ar gyfer mamolaeth neu gyfrifoldebau gofalu ac yn y blaen, a rhestr o'u holl gyhoeddiadau a’r grantiau a ddyfarnwyd iddynt (os o gwbl).

At hyn, dylai ymgeiswyr ddarparu mewn e-bost esboniadol enwau dau ganolwr sy'n gwybod am eu gwaith a'r maes ymchwil arfaethedig.

Dylai sefydliadau sy’n cynnal ddarparu dadansoddiad o'r costau gan ddefnyddio’r tablau o fewn eu ffurflenni cais.

Ffurflenni Cais

Dylid cynnwys enwau dau ganolwr enwebedig yn yr e-bost.

Bydd ceisiadau yn gyfyngedig i 12 tudalen ynghyd â CV 3 tudalen, maint ffont 11 yn Times New Roman neu Arial gyda maint yr ymylon yn ddim llai na 2cm (chwith, dde a gwaelod) ac 1cm ar y brig. Dylid rhestru cyfeiriadau ar ddiwedd y ddogfen a byddant yn cyfrif tuag at nifer y tudalennau.

Byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth o’ch ffurflen o fewn 5 diwrnod gwaith. Os na fyddwch yn derbyn hwn, cysylltwch â’r tîm rheoli yn yr un cyfeiriad e-bost.

Rhoddir y broses lawn ar gyfer adolygu a dethol ceisiadau ar y dudalen Adolygu Ceisiadau.