Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.
Efallai nad yw’r sefyllfa bresennol yn galluogi cynhyrchwyr bwyd a diod bach yng Nghymru i gyflawni eu ‘busnes fel yr arfer’. Er hyn, mae llawer ohonynt bellach yn troi at ddulliau gwahanol a dyfeisgar i gynnal eu gwerthiant.
Mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, wedi diolch i werthwyr bwyd a diod annibynnol sydd wedi cadw’r cadwyni cyflenwi lleol yn llifo ac wedi cefnogi staff y GIG yn ystod y pandemig.
Mae Parlwr Hufen Iâ Red Boat ar Ynys Môn yn rhoi gwên ar wynebau gweithwyr gofal iechyd a chleifion y gogledd yn ystod yr argyfwng coronafeirws drwy roi hufen iâ a sorbedau am ddim iddyn nhw.
Rydym yn gwahodd ceisiadau oddi wrth aelodau Clwb Allforio Bwyd a Diod Cymru i gymryd rhan yn Ymweliad Datblygu Masnach rhithwir â Awstralia a gefnogir gan Bwyd a Diod Cymru, a fydd hefyd yn cynnwys allgymorth i gysylltiadau yn Seland Newydd.
Gan fod digwyddiadau bwyd a chefn gwlad wedi cael eu canslo o ganlyniad i’r pandemig coronafeirws, mae gwenynwyr o bob cwr o Gymru wedi dod ynghyd i sicrhau bod y cyhoedd yn dal i allu prynu mêl Cymreig - a helpu gwenyn Cymru ar yr un pryd!
Mae’n gyfnod heriol i nifer o fusnesau sy’n parhau i weithredu yn ystod pandemig y coronafeirws, ond mae Cradoc’s Savoury Biscuits yng nghalon Bannau Brycheiniog yn wynebu’r her yn hyderus.