Gan fod digwyddiadau bwyd a chefn gwlad wedi cael eu canslo o ganlyniad i’r pandemig coronafeirws, mae gwenynwyr o bob cwr o Gymru wedi dod ynghyd i sicrhau bod y cyhoedd yn dal i allu prynu mêl Cymreig - a helpu gwenyn Cymru ar yr un pryd!

Mae map wedi cael ei greu sy’n cynnwys nifer o gynhyrchwyr mêl o bob cwr o Gymru sydd wedi cofrestru gyda Cywain, a sut i gysylltu â nhw: https://bit.ly/2RU5bmO

Yn ogystal, bydd y rhai sydd wrth eu bodd gyda mêl ac yn prynu jar o fêl Cymreig yn ystod y cyfnod yn cael bonws ychwanegol - pecyn o hadau blodau gwyllt i helpu i gynyddu poblogaeth gwenyn Cymru.

Mae’r cyfyngiadau i symudiad a gyflwynwyd i geisio atal lledaeniad COVID-19 yn golygu bod digwyddiadau, sioeau a marchnadoedd wedi cael eu canslo – llawer ohonynt yn fannau pwysig er mwyn gwerthu mêl o Gymru.

Er bod rhai busnesau mêl eisoes yn cadw siopau ar-lein, mae eraill - yn enwedig mentrau micro - wedi gorfod addasu eu ffordd o werthu i’r cyhoedd yn sydyn iawn.

Mae hyn wedi cael ei wneud mewn sawl ffordd. Mae rhai wedi sefydlu gwefannau, neu’n derbyn archebion dros y ffôn neu e-bost. Mae eraill yn cyflenwi eu siopau lleol, ac mae rhai wedi gosod “blychau gonestrwydd” wrth y giât gefn.

Mae’r map hwn wedi cael ei greu gan Glwstwr Mêl Cymru - rhaglen datblygu busnes gan Lywodraeth Cymru sy’n cael ei hwyluso gan Cywain, sy’n anelu at gefnogi busnesau mêl yng Nghymru i greu swyddi a sicrhau twf economaidd cynaliadwy trwy ddarparu cefnogaeth sy’n benodol i’r sector.

Dywed Haf Wyn Hughes, Arweinydd Clwstwr Mêl Cymru, “Ar hyn o bryd, fel nifer o fewn y sector bwyd a diod, mae gwenynwyr yn  profi colledion sylweddol. Ond maen nhw’n bobl wydn ac arloesol.

“Daeth y syniad ar gyfer creu’r map gan aelodau’r Clwstwr a oedd yn credu y byddai’n syniad da i adael i gwsmeriaid yng Nghymru wybod ble maen nhw.

“Yn ystod y cyfnod hwn o ynysu, mae nifer ohonynt wedi datblygu eu busnesau i fod ar-lein bron iawn dros nos, naill ai drwy Facebook neu Instagram ayb. Ond beth sy’n braf am y sefyllfa yw er bod rhai ohonynt heb fynd ar-lein hyd yma, maen nhw’n dal i fod yn fodlon derbyn archeb dros e-bost ac i symud ymlaen o’r fan honno er mwyn cefnogi eu cwsmeriaid lleol.”

Mae Lynfa Davies yn cadw gwenyn yng Ngheredigion ac yn rhedeg busnes Mêl Mynach ger Aberystwyth. Fel cynhyrchwr mêl ar raddfa fach, mae’n gobeithio y bydd y map yn cyrraedd cwsmeriaid presennol a chwsmeriaid posibl.

Dywed Lynfa, “Mae’r map mêl wedi rhoi’r cyfle i mi gyrraedd fy nghwsmeriaid o bell. Hefyd, mae’n ddefnyddiol iawn ar gyfer codi ymwybyddiaeth o gynnyrch lleol a naturiol.

“Mae mwyafrif fy nghwsmeriaid wedi dod ataf gan eu bod wedi clywed amdanaf gan eraill, ac rwy’n gwerthu i ychydig o siopau twristiaeth lleol - ond maen nhw ar gau erbyn hyn, sy’n golled enfawr i mi.

“Rydw i’n gallu dosbarthu’n lleol ar sail achos unigol a gallaf drefnu’r lle gorau i adael yr archebion mêl ar gyfer y rhai sy’n archebu.”

Mae’r teulu Pett o Wenynfa Pant Derwen wedi bod yn cadw gwenyn am dros 50 mlynedd. Mae’r busnes - sy’n cadw cychod gwenyn ar draws Pen-y-bont a Bro Morgannwg - wedi sefydlu siop ar-lein ar eu gwefan presennol (www.welsh-honey.com) ac yn dosbarthu’n lleol.

Dywed Dafydd Pett, sy’n 17 mlwydd oed ac yn dilyn ôl troed ei dad a’i dad-cu drwy gadw gwenyn, “Mae’r siop fêl ar ein gwefan yn newydd. Nid oeddem yn gwerthu ein mêl ar-lein cyn hyn; roeddem yn ei werthu o’r wenynfa a thrwy siopau lleol, siopau deli ayb. Roeddem ni hefyd yn mynychu sioeau, ffeiriau a digwyddiadau, ond mae’r rhain naill ai wedi cael eu canslo neu’n ansicr a fyddant yn cael eu cynnal ai peidio.

“I mi, mae’r Map Mêl yn bwysig gan ei fod yn rhoi syniad i gwsmeriaid ble maen nhw’n gallu cael gafael ar fêl Cymreig o ansawdd uchel. Mewn cyfnod fel hwn, mae pobl yn galw am fêl, ac mae mêl Cymreig yn gynnyrch premiwm.”

Bydd y cynhyrchwyr mêl sy’n cael eu cynnwys ar y map yn anfon hadau blodau gwyllt gyda’u harchebion, trwy garedigrwydd y Clwstwr Mêl.

Dywed Haf Hughes, “Roedd 2020 am fod yn flwyddyn llawn digwyddiadau uchel eu proffil ar gyfer y Clwstwr Mêl. Roedd yr hadau am fod yn rhan o’n digwyddiadau, felly yn hytrach, rydym ni wedi penderfynu cynnig pecyn o hadau blodau gwyllt am ddim gyda phob jar o fêl a brynir yn ystod y cyfnod hwn.

“Mae’r hadau’n addas i’w tyfu ym mhriddoedd Cymru, a thrwy eu hau, bydd cwsmeriaid hefyd yn cefnogi gwenyn mêl lleol.”

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, “Rydw i’n falch iawn bod gwenynwyr Cymru’n gweithio gyda’i gilydd i ganfod ffyrdd o sicrhau bod eu mêl ar gael i’w cwsmeriaid - yn enwedig yn ystod y cyfnod heriol hwn. Mae hyn yn beth da i gynhyrchwyr mêl ac i’r cyhoedd sy’n awyddus i gefnogi busnesau lleol.

“Mae gwenyn yn chwarae rôl hanfodol er mwyn cynnal ein hecosystemau, a bydd yr ymgyrch hadau blodau gwyllt yn helpu gwenyn i ffynnu yng Nghymru.”

 

Honey pot with bees wax
honey map

 

Share this page

Print this page