Efallai nad yw’r sefyllfa bresennol yn galluogi cynhyrchwyr bwyd a diod bach yng Nghymru i gyflawni eu ‘busnes fel yr arfer’.  Er hyn, mae llawer ohonynt bellach yn troi at ddulliau gwahanol a dyfeisgar i gynnal eu gwerthiant.

Un o’r rhaglenni sy’n cefnogi cynhyrchwyr drwy’r newidiadau anodd a chyflym hyn, yw Cywain – rhaglen a ddyluniwyd a’i datblygwyd gan Menter a Busnes sy’n ymrwymo i ddatblygu busnesau micro a BBaCh newydd a phresennol yn y sector bwyd a diod yng Nghymru.

Dywedodd Arweinydd Tîm Marchnata a Digwyddiadau Cywain, Alex James: “Mae’r newidiadau sydd wedi dod yn sgil pandemig COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar nifer o gynhyrchwyr bwyd a diod, ond mae’n rhaid pwysleisio bod nifer o straeon positif yn dod i’r amlwg hefyd.

“Drwy waith parhaus Cywain gyda chynhyrchwyr, rydym yn gwybod pa mor galed maen nhw’n gweithio i addasu eu cynlluniau busnes a’u gwasanaethau i’w galluogi i barhau i ddarparu cynnyrch arbennig o Gymru i’w cwsmeriaid.

“I rai mae wedi golygu newid y ffordd y maent yn gweithio, tra bod eraill wedi dod ynghyd i greu cyfleoedd newydd – ac wedi cofleidio ysbryd clystyru y mae Cywain eisoes yn ei feithrin fel hwylusydd Clwstwr Bwyd Da Cymru.”

“Felly, rydym wedi penderfynu rhannu rhai o’r straeon am gynhyrchwyr sydd wedi llwyddo i ymgymryd â’r her o weithredu yn y ‘byd newydd’ sydd ohoni, ac annog y cyhoedd i siopa’n lleol.”

Mae penderfyniad Cywain i hyrwyddo straeon ‘newyddion da’ yn dilyn lansiad y Map Cynhyrchwyr ar-lein (https://menterabusnes.cymru/cywain/en/our-producers/ ). Mae’r map hwn, a grëwyd yn arbennig, yn denu sylw penodol at ystod o gynhyrchwyr bwyd a diod gwych ledled Cymru sy’n gallu darparu gwasanaeth siopa ar-lein a dosbarthu i’r cartref.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Mae’n braf clywed sut mae cynhyrchwyr a chwmnïau bwyd a diod bach yn addasu eu busnesau ar hyn o bryd – ac rwy’n siŵr bod llawer o straeon calonogol a phositif i ddod.

“Drwy feddwl yn ehangach a gweithio a chlystyru gyda’i gilydd, mae cynhyrchwyr yn cadw eu mentrau i fynd ac yn parhau i ddarparu bwyd a diod gwych o Gymru i gwsmeriaid.”

#CefnofiLleolCefnogiCymru

ASTUDIAETHAU ACHOS:

CLAM’S CAKES

Dros y 40 mlynedd diwethaf, mae Clam’s Cakes wedi datblygu o fod yn fenter siop goffi yng Nghrughywel i fod yn fecws pwrpasol sy’n cyflenwi gwestai, bwytai, caffis ac adwerthwyr ledled y DU.

Felly, pan gaeodd y sector lletygarwch dros dro, collodd y cwmni bron i bob archeb dros nos. Gyda rhewgelloedd yn llawn o gacennau arobryn wedi’u creu â llaw, lluniodd y cwmni gynllun gwahanol.

Er bod cynhyrchiant wedi dod i ben am y tro, mae’r teulu Phillips a ddechreuodd y busnes wedi mynd ati i ddod â gwên i wyneb y rhai sy’n methu â gadael eu cartrefi ar hyn o bryd.

Mae’r cwmni bellach yn dosbarthu cacennau a bisgedi i gwsmeriaid sy’n byw o fewn 10 milltir i Grughywel.

Mae’r dewis o gacennau’n amrywio bob wythnos, ac mae rhestr yn cael ei chyhoeddi ar dudalen Facebook y cwmni. Mae archebion yn cael eu derbyn a’u talu amdanynt dros y ffôn ac yn cael eu dosbarthu i stepen drws y cwsmer.

“Dim ond ein teulu ni sydd wedi bod wrthi, ond mae pobl wedi bod yn ddiolchgar iawn,” meddai’r perchennog, Jane Phillips. “Rydym ni wedi cael cymaint o bobl yn ein canmol. Mae fy mab, Lewis wedi bod yn pobi bara fel ein bod yn gallu cynnig torth i gwsmeriaid gyda’u harchebion. Mae gennym ni warws yn llawn blawd, felly rydym ni wedi ychwanegu blawd, wyau ffres a menyn i’r detholiad o gynnyrch sydd ar gael. Mae’n helpu ein cyflenwr wyau hefyd.”

Mae’r teulu hefyd wedi rhoi offer diogelu personol (PPE) sy’n cael ei ddefnyddio fel arfer yn y becws i’r ganolfan iechyd lleol. Ac maent wedi bod yn dosbarthu cacennau i ysbytai a gweithwyr rheng flaen.

Ar nodyn personol, mae Jane yn cael boddhad o’r cyswllt gyda chwsmeriaid dros y ffôn hefyd.

“Rydw i wedi dod ar draws rhai cwsmeriaid sy’n teimlo bod yr hunanynysu’n heriol, ac maent yn mwynhau cael sgwrs wrth ffonio i archebu.

“Er nad ydym yn gwneud llawer o elw ar hyn o bryd, rydym ni’n gwneud pobl yn hapus.”

Rhagor o wybodaeth: www.clamscakes.co.uk

JACK AC AMELIE

Gan na fu modd i Sophie Brown ac Abi Dymmock lansio eu menter newydd yn paratoi prydau bwyd i blant fel y trefnwyd, maent yn canolbwyntio yn hytrach ar gynyddu nifer eu cwsmeriaid yng Nghaerdydd, lle y maent yn byw.

Cafodd y ddwy ffrind y syniad o greu 'bwyd addas i oedolion, i blant' yn dilyn eu profiadau nhw o geisio ymdopi â galwadau gwaith a magu teulu ifanc.  Fe wnaethon nhw enwi'r cwmni ar ôl eu plant - ‘Jack ac Amelie’.

Dywedodd Sophie, “Yn ystod ein cyfnod ar absenoldeb mamolaeth, cawsom amser i baratoi prydau newydd ac amrywiol i'n plant.  Ond ar ôl dychwelyd i'r gwaith, roedd hi'n anos cael amser i wneud hyn, a gwelsom nad oedd llawer o fwyd wedi'i baratoi'n barod ar gael er mwyn helpu yn ystod y cyfnodau prysur hynny.”

Mae eu seigiau yn amrywio ffefrynnau teuluol rhyw ychydig, ac maent yn “llawn llysiau”.  Maent yn cynnig amrywiaeth a chydbwysedd, ac mae dewisiadau ar gael sy'n cynnwys cig a rhai ar gyfer llysieuwyr a feganiaid.  Mae'r prydau wedi'u rhewi yn cynnwys Cyrri Thai yr Enfys gyda Chorbys a Llysiau, Stiw Caponata gyda Pheli Cig Twrci a Pherlysiau, Caserol Cig Eidion gyda Gwreiddlysiau.

Fodd bynnag, chwalwyd cynlluniau'r ffrindiau i lansio cynnyrch Jack and Amelie yn ystod digwyddiad masnachol mawr ar gyfer y diwydiant bwyd a diod yn y DU fis diwethaf gan bandemig Covid-19.  Er gwaethaf popeth, a chan fanteisio ar eu sgiliau o'u gyrfaoedd blaenorol ym maes rheoli prosiectau, fe'u gwelwyd yn addasu i'r sefyllfa yn gyflym – ac maent yn defnyddio eu sianelau cyfryngau cymdeithasol (@jackandamelie) er mwyn cadw mewn cysylltiad gyda chwsmeriaid.

“Roeddem wedi llwyddo i sicrhau cynhyrchwr gwych, ac roeddem yn dechrau cynyddu'r gwaith cynhyrchu, ond bu'n rhaid i ni newid – yn ffodus, yn ein swyddi blaenorol, roeddem yn gyfarwydd â newid syniadau.  Felly am y tro, yn hytrach na'n cynllun gwreiddiol o gyflenwi adwerthwyr, byddwn yn gwerthu i'r cyhoedd yn uniongyrchol yng Nghaerdydd a'r cyffiniau.

“Rydym yn dosbarthu ein cynnyrch gan ddefnyddio technoleg ddigyffwrdd er mwyn cymryd taliadau, a chan feithrin cyswllt gyda rhieni.  Rydym wedi cael adborth gwych, yn enwedig gan rieni sy'n gorfod gofalu am eu plant nawr a gweithio gartref ar yr un pryd.”

Rhagor o wybodaeth:  www.jackandamelie.co.uk

HUFENFA TŶ TANGLWYST

Arferai'r gwasanaeth dosbarthu llaeth i'r stepen drws fod yn olygfa gyfarwydd, ac mae'n dod yn wasanaeth hanfodol nawr i nifer o bobl sy'n hunanynysu.

I un hufenfa yn ne Cymru, Tŷ Tanglwyst, mae cyflenwi llaeth i'r stepen drws yn helpu'r fferm i barhau i werthu ei chynnyrch llaeth sydd wedi ennill gwobrau.

Mae teulu Lougher wedi bod yn cyflenwi llaeth o'u buches sy'n cynnwys 110 o wartheg llaeth Holstein Pedigri i gartrefi cwsmeriaid o fewn deng milltir i'r fferm yn Y Pîl ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Bellach, wrth i nifer eu cwsmeriaid gynyddu, mae gofyn i'r busnes ehangu ei weithlu.

“Gyda safleoedd fel ysgolion a swyddfeydd ar gau, mae ochr fasnachol a chyfanwerthu y busnes wedi dioddef.  Fodd bynnag, mae nifer ein cwsmeriaid domestig wedi cynyddu,” dywedodd Rhys Lougher, ffermwr llaeth, y mae sawl cenhedlaeth o'i deulu wedi bod yn ffermio yn Nhŷ Tanglwyst.

“Mae'r galw am ein cynhyrchion ar y stepen drws wedi golygu y bu'n rhaid i ni ymestyn ein rowndiau.  O ganlyniad, rydym wedi sefydlu rolau ychwanegol o fewn y cwmni, a phan fydd ein busnes masnachol yn dychwelyd, byddwn yn mynd ati i gyflogi staff ychwanegol.

“Rydym yn fusnes teuluol bach sydd â gweithwyr ymroddedig ac sy'n gweithio'n galed.  Mae'n ffodus ein bod wedi gallu addasu I newidiadau o ran ein cwsmeriaid yn gyflym, gan ymateb i anghenion pobl.”

Mae'r busnes, sydd wedi ennill gwobrau ac sy'n cynhyrchu menyn a hufen hefyd, yn cyflenwi wyau a sudd ffrwythau i gwsmeriaid hefyd.  Ond yn ystod y cyfnod heriol hwn, bu'n rhaid gwneud rhai newidiadau er mwyn bodloni'r galw.

Dywedodd Rhys, “Bu prinder bocsys wyau cardbord, felly bu'n rhaid i ni ddefnyddio rhai plastig, ac rydym yn prynu sudd ffrwythau mewn sypiau mawr.  Wrth i fwy o bobl roi cynnig ar bobi gartref, gwelwyd cynnydd mawr yn nifer yr archebion am fenyn – felly mae hyn wedi bod yn heriol ar brydiau.”

Bydd pobl yn archebu trwy Facebook a chyfryngau cymdeithasol, ac i nifer o gwsmeriaid, maent yn croesawu gwasanaeth Tŷ Tanglwyst yn fawr.

“Mae pobl wedi dweud pa mor ddiolchgar ydynt am y gwasanaeth a'i fod yn eu helpu wrth iddynt orfod aros gartref.  Mae nifer o bobl wedi dweud hefyd y gallant flasu'r gwahaniaeth yn ein llaeth ni, ac ar ôl i'r cyfnod hwn ddod i ben, y byddant yn parhau i archebu gennym ni.”

Rhagor o wybodaeth:  www.tytanglwystdairy.com

 

 

Share this page

Print this page