Mae’n gyfnod heriol i nifer o fusnesau sy’n parhau i weithredu yn ystod pandemig y coronafeirws, ond mae Cradoc’s Savoury Biscuits yng nghalon Bannau Brycheiniog yn wynebu’r her yn hyderus.

Dechreuodd Allie Thomas y busnes yn 2008 yn ei becws yn ei gardd, gan ganolbwyntio ar bobi cynhyrchion o’r safon uchaf, gan ddefnyddio cyfuniad o lysiau, ffrwythau, blodau, hadau a pherlysiau i roi blas i’w detholiad o fisgedi a chraceri sawrus.

Mae’r cynhyrchydd bisgedi sawrus parhau i bobi ond, yn naturiol, mae wedi gorfod addasu.. Ar hyn o bryd, dim ond Allie a’i merch 30 oed, Ella, sy’n pobi, pacio a danfon yr holl archebion.

Cafodd Cradoc’s  ddechrau anodd i’r flwyddyn yn sgil y diffyg hyder o ganlyniad i Brexit a’r tywydd stormus. Fodd bynnag, mae’r alwad am archebion gan gwsmeriaid presennol sy’n cynnig hamperi caws i eraill sy’n hunanynysu wedi golygu bod galw cynyddol am graceri a bisgedi. Mae’r cwmni’n cyflenwi’r cynhyrchion i gwmnïau hamperi, sy’n golygu bod cwsmeriaid yn archebu niferoedd mawr yn hytrach na chyflenwadau unigol.

Dywedodd y cyd-sylfaenydd Allie Thomas,

“Dydyn ni ddim yn gweithredu’n llawn, oherwydd dim ond dwy ohonon ni sy’n gweithio, ond rydw i’n pobi ac mae Ella yn pacio ac yn danfon, ac rydyn ni’n llwyddo i gwrdd â’r galw a chadw’r busnes i fynd.

“Mae’r galw am archebion gan gleientiaid presennol sy’n cynnig hamperi caws i gwsmeriaid sy’n hunanynysu wedi achub y busnes ac mae hefyd yn dangos sut mae ein cymunedau’n ymateb mewn cyfnod fel hwn.

“Rydyn ni mor lwcus bod y teulu yn helpu tra’n dilyn cyngor y Llywodraeth ac yn aros gartref, gan adael dim ond i weithio a dilyn y rheol o gadw pellter o 2 fetr wrth brynu cynhwysion ffres. Gobeithio bod pawb yn cadw’n iach ac y daw y sefyllfa  i ben cyn bo hir.”

Mae’r cwmni’n anfon hamperi unigol o’i siop ar-lein, fodd bynnag, mae mwyafrif yr archebion yn mynd trwy gwmnïau Cymreig eraill sydd wedi bod yn gweithio â nhw yn ystod y chwe blynedd diwethaf fel Black Mountains Smokery, Caws Cenarth a Chaws Teifi.

Ychwanegodd Allie Thomas,

“Rydyn ni’n cyflenwi cwmnïau hamperi mawr, sy’n golygu eu bod yn archebu niferoedd mawr yn hytrach na nwyddau unigol, mae dau baled yn gadael yr wythnos nesa, un ar gyfer cwmni hamperi yn Llundain, a’r llall ar gyfer cynhyrchydd caws annibynnol yn Rhydychen sydd hefyd yn gwerthu hamperi caws.

 “Rydyn ni wrth ein bodd ac wedi blino’n lân. Rydyn ni wedi gweithio wythnos lawn yr wythnos hon ac mae’n debygol y bydd yr un peth yn digwydd yr wythnos nesaf. O ganlyniad i’r sefyllfa hon, rydyn ni’n ystyried ychwanegu cynnyrch arall wedi ei frandio er mwyn rhoi mwy o sicrwydd inni, a llai o natur dymhorol. Mae’r sefyllfa wedi gwneud inni ystyried yn ofalus pa mor fregus yw’r busnes.”

 Ychwanegodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths,

“Mae pandemig Covid-19 wedi dod â heriau sylweddol i’n diwydiant bwyd a diod. Nid yn unig ei fod wedi effeithio ar ein bywydau bob dydd ond hefyd ar sectorau allweddol sy’n rhannau hanfodol o’n heconomi. Er hynny, mae’n wych gweld cynifer o fusnesau bwyd a diod yn gweithio’n ddiflino i chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi ein cymunedau, ac addasu i’r amgylchedd gwaith newydd a heriol hwn.”

Nid oes olew palmwydd, siwgr ychwanegol, wyau na burum yng nghraceri Cradoc’s. Mae’r detholiad o gynhyrchion yn cynnwys Cennin a Chaws Caerffili, Stilton a Llugaeron, Betys a Garlleg, Tsili, Garlleg a Sinsir, Cheddar a Siytni Winwns, Gellygen ac Earl Grey, ymysg eraill.

Am ragor o wybodaeth am Cradoc’s Savoury Biscuits a’i ddetholiad llawn o nwyddau, ewch i www.cradocssavourybiscuits.co.uk/

 

.

Share this page

Print this page