Yn ddiweddar cafodd cynhyrchwyr bwyd a diod o bob rhan o Gymru y cyfle unigryw i gyfarfod darparwyr gwasanaethau bwyd byd-eang blaenllaw er mwyn ceisio cryfhau ac ehangu eu busnes.
O dan nawdd Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru fel rhan o’i hymrwymiad parhaus i’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, cynhaliwyd seminarau yng Nghaerdydd a Wrecsam. Roedd y prif siaradwyr yn y seminarau yn cynnwys Sodexo, Compass a Brakes, a dywedodd pob un ohonynt eu bod yn awyddus iawn i weithio gyda chynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru.
Mae’r diwydiant bwyd a diod yn un o sêr newydd economi Cymru ac mae ganddo gryn botensial i dyfu. Mae Llywodraeth Cymru eisiau cynyddu gwerthiannau 30% i £7 biliwn ac mae sector gwasanaethau bwyd y DU (Manwerthu – bwyd wrth fynd, Teithio & Hamdden a Thafarnau & Bwytai a’r Sector Cost) yn cynnig cyfle real a chyffrous iawn i gynhyrchwyr bach a chanolig.
Ym mis Hydref 2015, cyhoeddodd Village Bakery yn Wrecsam gytundeb newydd i gyflenwi siopau Co-op ledled Cymru, ac roeddent yn bresennol yn y digwyddiad ar y 12fed Ionawr ym Mhrifysgol Glyndŵr. Meddai Catherine Bletcher, Rheolydd Cyfrifon y cwmni: "Agorodd y seminar ein llygaid i’r cyfleoedd posib sydd ar gael i gwmnïau yng Nghymru yn y sector gwasanaethau bwyd, ac ar gefn yr hyn a ddysgwyd, byddwn yn edrych ar rai prosiectau NPD sy’n addas ar gyfer y sector hwn".
Hefyd yn bresennol oedd Braces Bakery, sy’n awyddus i ehangu i’r sector gwasanaethau bwyd. Meddai Nick Ford, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Newydd: “Roedd y seminar yng Nghaerdydd yn hynod ddefnyddiol a buddiol i’n busnes os ydym am barhau i ehangu. Rhoddodd gyfle rhwydweithio heb ei ail inni ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu’r cysylltiadau a wnaethom”.
Daeth mwy na 50 o gynhyrchwyr o bob rhan o’r Gogledd a’r De i’r seminarau a’u disgrifio’n llwyddiant mawr ac mae cynlluniau ar waith yn barod ar gyfer rhaglen cyfarfod â’r prynwr ym misoedd Chwefror a Mawrth 2016.
Dywedodd Rebecca Evans AC, Dirprwy Weinidog Amaeth a Bwyd: "Rydym yn falch iawn o’r nifer â ddaeth i’r digwyddiadau yng ngogledd a de Cymru, ac yn awyddus i edrych ar bob cyfle twf posib i gyflenwyr yng Nghymru. O ystyried y diddordeb gwirioneddol a ddangosodd ein siaradwyr gwadd mewn prynu o Gymru, rydym yn obeithiol iawn y daw busnes newydd o’n rhaglen Cyfarfod â’r Prynwr dros y misoedd nesaf."