Yr wythnos ddiwethaf, cynhaliodd Cymdeithas Ryngwladol Diogelu Bwyd (IAFP) ei chyfarfod yng Nghymru. Mae’r Gymdeithas yn fudiad di-elw byd-eang o UDA sy’n helpu arbenigwyr bwyd ar hyd a lled y byd i ryngweithio.
Am ddeng mlynedd, mae Canolfan Diwydiant Bwyd Prifysgol Fetropolitan Caerdydd wedi bod yn gysylltiad rhwng y Deyrnas Unedig â Chymdeithas Ryngwladol Diogelu Bwyd. Oherwydd y cysylltiad hwn ac ar y cyd â Llywodraeth Cymru, daeth 350 o arbenigwyr bwyd o bob cwr o’r byd ynghyd i greu rhwydweithiau ac i drafod yr heriau sy’n effeithio ar ddiogelwch bwyd ar hyd o bryd.
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Bwyd a Ffermio: “Roedd y digwyddiad hwn yn dyst o’r berthynas glos y mae Llywodraeth Cymru’n ei hyrwyddo rhwng twf bwyd cynaliadwy, nid yn unig yn ein marchnadoedd yma ond mewn marchnadoedd rhyngwladol hefyd a sicrhau bod bwyd yn ddiogel yn ystod pob cam o’i daith ar hyd y gadwyn fwyd. Mae cynrychiolwyr rhyngwladol eisoes wedi canmol y digwyddiad ac mae’r argraff o Gymru y mae’r rhai a ddaeth i’r digwyddiad o chwe chyfandir wedi’i gael yn gadarnhaol iawn.”
“Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i drafod llawer o’r themâu sy’n rhan o gynllun Gweithredu Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru ac yn ystod y digwyddiad pwysig hwn oedd yn para tri diwrnod, trafodwyd masnach, rheoleiddio, gwyddoniaeth a’r sector datblygu.”
Dyma’r tro cyntaf i’r digwyddiad Ewropeaidd hwn gael ei gynnal yn y Deyrnas Unedig Roedd y gwyddonwyr, swyddogion o’r llywodraeth a’r sector preifat oedd yno’n dod o 30 o wledydd. Fe’i cynhaliwyd yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ac yna derbyniad gyda’r nos yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru lle cafodd y cynrychiolwyr fwynhau cynnyrch lleol.
Roedd y cyfarfod yn gyfle i greu cyfleoedd i rannu gwybodaeth ar draws ffiniau yn ogystal a hybu bwydydd Cymreig i gwsmeriaid tramor. Bu strategwyr o Asiantaeth Safonau Bwyd Llundain ac Adran Amaethyddol Unol Daleithiau’r America yn Washington yn trafod ymrwymiad i wneud mwy o waith dros yr Iwerydd i ddatblygu gwybodaeth am ddiogelwch bwyd.
Dywedodd Dr Donald Zink, Uwch Swyddog Gwyddonol yng Nghanolfan Diogelwch Bwyd a Maetheg Gynhwysol yn Adran Amaethyddol UDA: “Mae’n rhaid i ni fynd ati o ddifri i agor y dorau daearyddol er mwyn taclo problemau diogelwch bwyd ar raddfa fyd-eang a cheisio alinio’r anawsterau y mae’r Deyrnas Unedig yn eu cael gyda’r rhai sy’n effeithio ar UDA. Cydweithio’n agos yw’r ffordd ymlaen.”
Dywedodd Dr Sara Mortimore o Land O’Lakes Corporation (Minneapolis, UDA) ei bod hi’n bwysig cyfarfod a rhannu gwybodaeth. Roedd uwch wyddonwyr o J Sainsbury, Cymdeithas Fwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig a David Brackston, Cyfarwyddwr Technegol Safonau Bwyd Consortiwm Manwerthu Prydain ymhlith y siaradwyr oedd yn cymryd rhan.
Roedd y rhaglen a’r arddangosfeydd cysylltiedig yn dangos strategaethau bwyd Llywodraeth Cymru a chynhyrchion bwyd Cymreig; roedd yn hybu rhyngweithio rhyngwladol gydag arbenigwyr Cyfraith Bwyd a Labelu a chreu llwybrau i hwyluso allforio cynhyrchion bwyd o Gymru i farchnadoedd newydd.
Dywedodd David Lloyd, Cadeirydd y pwyllgor trefnu lleol a Chyfarwyddwyr Canolfan y Diwydiant Bwyd Zero2Five Prifysgol Metropolitan Caerdydd: “Roedd y cyfarfod yn llwyddiannus iawn ac ar wahân i’r budd ariannol amlwg a gafodd economi Cymru o ganlyniad i’r digwyddiad tri diwrnod, fe helpodd i sefydlu Caerdydd a Chymru fel cyrchfan lle mae diogelwch bwyd, twf bwyd economaidd ac arbenigedd gwyddoniaeth bwyd yn cael eu croesawu a’u hannog.”