1. Cyflwyniad

Mae gallu cadw merched talentog yn hanfodol bwysig i economi Cymru ac i'r busnesau sy’n ei chynnal.   

Drwy sicrhau bod merched beichiog a mamau newydd yn ddiogel yn y gweithle ac yn cael eu trin yn deg, rydych yn:

  • dangos eich ymrwymiad i amrywiaeth, cynhwysiant a chydraddoldeb rhwng y rhywiau
  • helpu i chwalu rhwystrau i ddatblygiad gyrfa a chydraddoldeb cyflog merched
  • cadarnhau bod eich sefydliad chi yn ystyriol o deuluoedd
  • mwynhau'r manteision sydd ynghlwm â gweithlu amrywiol, hyblyg ac ymgysylltiol 
  • cael mynediad at ddoniau ehangach a mwy amrywiol sy’n gwella cyfraddau cadw staff 
  • hybu ymddiriedaeth a chyfathrebu gwell rhwng eich rheolwyr a’ch gweithwyr
  • dangos i’ch holl staff bod eu lles gorau yn bwysig i chi   

Mae manteisio i'r eithaf ar sgiliau a doniau pawb yn bwysig. Mae cwmnïau sy’n cadw mwy o ferched nid yn unig yn gwneud y peth iawn ond maent hefyd yn sicrhau manteision ariannol.  Mae busnesau sydd yn y chwarter uchaf o ran amrywiaeth o safbwynt y rhywiau 15% yn fwy tebygol o ragori ar ystadegau cenedlaethol y diwydiant yng nghyswllt perfformiad.   

Gallwch gymryd camau syml a fydd yn sicrhau bod eich gweithle chi yn cynnig y gorau posib i ferched beichiog a mamau newydd.

2. Arweinyddiaeth o'r brig i lawr

Mae arweinyddiaeth gref o’r brig i lawr yn allweddol i sefydlu'r sylfaen iawn. Mae’n sicrhau bod pawb yn y cwmni yn ymwybodol o'ch polisïau a'ch ymrwymiadau a’u bod yn cefnogi eich nodau, gan sicrhau bod cefnogi merched beichiog a mamau newydd yn rhan o’r diwylliant. 

Awgrymiadau defnyddiol:

  1. Enwebwch gynrychiolydd ar lefel uwch i ganolbwyntio ar wella arferion o ran beichiogrwydd, mamolaeth a dychwelyd i'r gwaith. Gwnewch yn siŵr bod pawb arall yn ymwybodol ohonynt.
  2. Mynegwch eich ymrwymiad i gefnogi merched beichiog a mamau newydd i'ch gweithwyr, eich cwsmeriaid a'ch cyflenwyr.
  3. Pennwch dargedau ar gyfer cadw merched sy’n dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod ar famolaeth, a byddwch yn atebol am y rhain.
  4. Gwnewch yn siŵr eich bod yn monitro newidiadau ac yn defnyddio'r data i adnabod ac i fynd i'r afael â phethau sy’n rhwystro merched rhag camu ymlaen yn eu gyrfa neu rhag cael eu cadw yn y gweithle. 

3. Sicrhau gweithwyr hyderus

Mae’n bwysig bod gweithwyr yn teimlo eu bod yn gallu cychwyn sgwrs ddwyffordd agored gyda’u rheolwr llinell.  Mae cael cefnogaeth i gydweithio er mwyn rhoi cynlluniau ar waith ar gyfer beichiogrwydd, absenoldeb mamolaeth a dychwelyd i'r gwaith, yn gallu arwain at lefelau uwch o fodlonrwydd ymysg gweithwyr a chynnydd yn lefelau cadw staff. 

Awgrymiadau defnyddiol:

  1. Mynegwch beth yw polisïau'r cwmni o ran beichiogrwydd a mamolaeth, y mentrau sydd ar gael ac asesiadau o risg iechyd a diogelwch a sicrhau bod eich gweithwyr yn gallu cael gafael arnynt a’u bod yn eu deall.
  2. Sefydlwch rwydwaith cefnogi ar gyfer rhieni sy’n gweithio.
  3. Cynigiwch wasanaeth mentora a chefnogaeth un i un gan gydweithwyr.
  4. Rhowch gynllun cyfathrebu pwrpasol i'ch gweithwyr y gellir ei deilwra i gynnwys beichiogrwydd, mamolaeth a dychwelyd i'r gwaith, gan sicrhau bod sgwrs barhaus yn digwydd yn gynnar rhyngddynt a’u rheolwyr llinell. 

4. Hyfforddi a chefnogi rheolwyr llinell

Y rheolwr llinell yw'r pwynt cyswllt cyntaf i weithwyr beichiog a mamau sy'n dychwelyd i'r gwaith, felly mae’n hollbwysig eu bod yn teimlo bod ganddynt y gallu a'r gefnogaeth i gael trafodaeth gynnar gyda’u tîm ac i roi cynllun ar waith - gyda’i gilydd.  

Awgrymiadau defnyddiol:

  1. Sefydlwch wasanaeth cynghori a rhwydwaith cefnogaeth gan gydweithwyr ar gyfer rheolwyr llinell.
  2. Anogwch eich holl reolwyr llinell i fynd ar gwrs hyfforddiant beichiogrwydd/mamolaeth ACAS, sydd ar gael am ddim.
  3. Rhowch gyngor i reolwyr llinell ar sut i adnabod a mynd i'r afael â risgiau iechyd a diogelwch sy’n berthnasol i feichiogrwydd a bwydo o'r fron, a sefydlu cynllun cyfathrebu gyda'ch gweithwyr.  

5. Arferion gweithio hyblyg

Cydnabyddir yn eang mai un o'r elfennau allweddol o safbwynt datblygiad a chadw merched mewn gwaith - a phawb arall, mewn gwirionedd - yw cynnig cyfleoedd gweithio hyblyg. Gall hyn, yn ei dro, gael effaith gadarnhaol ar y gwir plaen:  rydym yn gwybod bod gweithwyr ymgysylltiol yn perfformio’n well yn y gwaith, a bod ymgysylltiad gwell ar ran gweithwyr yn gysylltiedig â pherfformiad ariannol gwell. 

Awgrymiadau defnyddiol:

  1. Pan fyddwch yn hysbysebu swyddi, nodwch eu bod yn agored i weithio hyblyg (lle bo hynny’n briodol) a rhowch gyhoeddusrwydd i amrediad eang o arferion gweithio hyblyg.
  2. Rhowch gynnig ar ffyrdd newydd o weithio.
  3. Byddwch yn agored ac yn glir ynghylch y mathau o weithio hyblyg y mae’r sefydliad wedi'u hystyried, eu cynnig a’u caniatáu.
  4. Dangoswch a dathlu enghreifftiau lle mae gweithio hyblyg wedi bod yn llwyddiannus.

6. Rhagor o wybodaeth

Gwybodaeth ddefnyddiol gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

  • Ymunwch â rhwydwaith Gweithion Blaengar i gael gafael ar doreth o gyngor ac adnoddau defnyddiol, gan gynnwys canllawiau ar sgyrsiau a fydd yn helpu rheolwyr a gweithwyr i gyfathrebu â’i gilydd.

Gwybodaeth a chyngor defnyddiol arall

  • Canllaw i gyflogwyr ar Absenoldeb a Thaliadau Mamolaeth Statudol 
  • Gall Timewise weithio gydag arweinwyr busnes i'w hargyhoeddi o'r achos busnes dros hyblygrwydd, i archwilio eich sefyllfa bresennol neu i lunio rhaglen gweithio hyblyg sy’n cyd-fynd â strategaeth eich sefydliad: