Cronfa Ddatblygu Cymru Greadigol
Bydd Cronfa Ddatblygu newydd Cymru Greadigol yn cynnwys dwy ffrwd yn canolbwyntio ar gefnogi prosiectau o fewn y sectorau teledu a chynnwys digidol (gan gynnwys gemau, animeiddio, Createch a gwasanaethau creadigol).
Anelir y cyllid hwn at fusnesau yng Nghymru sy'n datblygu cynnwys, cynhyrchion a gwasanaethau yn y Diwydiannau Creadigol. Ni fwriedir i'r rownd hon gefnogi prosiectau yn y sector technoleg ehangach.
Nodau’r Gronfa hon yw:
- Darparu cymorth ariannol i alluogi cwmnïau cynhyrchu lleol i ddatblygu yn llawn brosiectau teledu, gan ei gwneud yn fwy tebygol y bydd y prosiectau hyn yn cael eu comisiynu, eu cymeradwyo a’u cynhyrchu.
- Helpu cwmnïau lleol i gadw eiddo deallusol a fydd, yn ei dro, yn galluogi rhagor o dwf.
- Datblygu cymorth ariannol i ddatblygu gemau newydd, cysyniadau animeiddio, technoleg ymgolli, realiti rhithwir / realiti cymysg ac i ddatblygu cynnwys a phlatfformau cyflenwi /gwasanaethau yn y diwydiannau creadigol.
- Galluogi busnesau i farchnata’r prosiectau hyn ymhellach er mwyn dod o hyd i fuddsoddiadau masnachol, a fyddai wedi bod yn anodd eu cael heb y cyllid datblygu.
Mae £1.5 miliwn ar gael ar gyfer prosiectau yn y rownd ariannu hon. Bydd prosiectau’n cael eu blaenoriaethu yn ôl eu gallu i fodloni meini prawf y cyllid fel y’u hamlinellir yn y canllawiau. Nodwch fod hon yn gronfa gystadleuol ac na fydd pob prosiect yn llwyddiannus. Bydd uchafswm o £25,000 yn cael ei ddyrannu i bob prosiect llwyddiannus.
Mae cyllid datblygu wedi’i gynllunio i alluogi busnes i gyrraedd sefyllfa lle rydych yn ariannu eich twf parhaus eich hun. Ni fwriedir iddo fod yn gyllid ailadroddus – yn hytrach dylid defnyddio’r cyllid i’ch galluogi i greu ffrwd refeniw barhaus, gynaliadwy ar gyfer eich busnes a chael effaith barhaus, gadarnhaol ar eich sector.
Y Broses Ymgeisio
Bydd yr Alwad hon am gynigion am gyllid yn dechrau ddydd Llun 13 Medi 2021, ac yn cau i geisiadau ddydd Llun 11 Hydref 2021 am hanner dydd.
Byddwn yn gwneud pob ymdrech i asesu ceisiadau erbyn 5 Tachwedd 2021, ac yn cadarnhau'r canlyniadau erbyn 12 Tachwedd 2021 – fodd bynnag, mae'r amserlen hon yn dibynnu ar nifer y ceisiadau a dderbynnir.
Nid ystyrir unrhyw geisiadau sy'n cyrraedd yn hwyr.
Gweler y nodyn canllaw ar gyllid Cronfa Ddatblygu Cymru Greadigol 2021 Nodiadau Canllaw Allanol
Cyn gwneud cais, mae gennych yr opsiwn i drafod eich cynnig ag un o Reolwyr Datblygu Sector Cymru Greadigol drwy e-bost yn CymorthAriannuCymruGreadigol@llyw.cymru
Gall ein tîm roi cyngor mewn perthynas â chymhwysedd a, lle bo hynny'n briodol, roi arweiniad pellach ar eich cynnig.
I ofyn am ffurflen gais anfonwch e-bost at CymorthAriannuCymruGreadigol@llyw.cymru