Mae diwydiant bragu Cymru ar fin cymryd cam sylweddol ymlaen o ran datblygu sgiliau technegol wrth i Glwstwr Diodydd Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth ag FDQ a MEDR Cymru, sicrhau cyllid i gyflwyno'r Diploma Bragu Lefel 4 newydd. Bydd y cymhwyster uwch hwn yn cefnogi datblygiad bragwyr medrus iawn ledled Cymru ac yn cryfhau cystadleugarwch hirdymor y sector. Wrth groesawu'r cyhoeddiad, dywedodd Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion...
Arddangos bwyd a diod Cymru ar lwyfan byd-eang yn Foodex Japan
Mae Cymru unwaith eto wedi mwynhau lle canolog yn y sîn bwyd a diod fyd-eang yn dilyn presenoldeb llwyddiannus diweddar yn Foodex Japan 2026, yn y Tokyo Big Sight. Mae Foodex Japan yn un o arddangosfeydd bwyd a diod mwyaf a mwyaf dylanwadol Asia, ac yn denu mwy na 70,000 o brynwyr, dosbarthwyr, manwerthwyr ac arweinwyr gwasanaethau bwyd o bob cwr o Japan. Mae'r digwyddiad yn llwyfan heb ei ail i gynhyrchwyr arddangos arloesedd, cryfhau...
Dewiswch fwyd â ‘Gwreiddiau Cymreig’
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch genedlaethol i helpu i ddod â phob rhan o'i system fwyd ynghyd, o'r ffermwyr, y tyfwyr a'r pysgotwyr sy'n cynhyrchu bwyd o dir a dyfroedd Cymru i'r gweithgynhyrchwyr, y manwerthwyr, y cymunedau a'r teuluoedd sy'n ei brynu, ei goginio a'i rannu. Mae 'Gwreiddiau Cymreig' yn alwad i weithredu ar y cyd: cydnabyddiaeth o'r berthynas sydd gan Gymru â'i system fwyd a chreu newid parhaol lle mae gan bawb ran...
Cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru yn targedu twf manwerthu yn Iwerddon ar ymweliad masnach yn Nulyn
Bydd saith busnes bwyd a diod o Gymru yn teithio i Ddulyn rhwng 23–25 Mawrth fel rhan o ymweliad masnach allforio penodol, gyda’r nod o sicrhau rhestriadau newydd ym maes manwerthu a gwasanaeth bwyd yn Iwerddon. Bydd y ddirprwyaeth, sy’n arbenigo mewn cynnyrch pobi a siocled, yn cwrdd â phrynwyr uwch o sefydliadau blaenllaw Gwyddelig a rhyngwladol gan gynnwys Musgrave Group (SuperValu, Donnybrook Fair), Tesco Ireland, Marks & Spencer Ireland, Sysco Ireland ac Aramark. Mae...
Tasty Careers Schools Challenge Inspires the Next Generation of Food Innovators Across Wales
Mae Her Ysgolion Gyrfaoedd Blasus 2026, cystadleuaeth gyffrous a gynlluniwyd i sbarduno creadigrwydd a gwaith tîm ymhlith disgyblion ledled Cymru, wedi arddangos unwaith eto dalent ac arloesedd anhygoel pobl ifanc yn y sector bwyd a diod. Nod Her Ysgolion Gyrfaoedd Blasus, a gyflwynir gan yr Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Bwyd a Diod (NSAFD) Cymru mewn partneriaeth â rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru a Gyrfaoedd Cymru, yw codi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd gyrfa...
Gosod bwyd a diod o Gymru ganol llwyfan ym Marchnad hanesyddol Spitalfields yn Llundain dros benwythnos Gŵyl Ddewi.
Bydd Bwyd a Diod Cymru’n dod â’r gorau o fwyd a diod Cymreig i galon Llundain gyda sioe arbennig ym Marchnad eiconaidd Spitalfields dros benwythnos Gŵyl Ddewi, dydd Sadwrn 28 Chwefror - dydd Sul 1 Mawrth. Fel un o leoliadau bwyd mwyaf hanesyddol Llundain, bydd y farchnad yn rhoi sylw arbennig i ddwsin o gynhyrchwyr bwyd a diod Cymreig, ac yn dathlu statws Cymru fel cenedl fwyd modern sy’n cynhyrchu bwydydd a diodydd o safon...
‘Sêr Y Dyfodol’: Cenhedlaeth Nesaf Cymru o Arloeswyr Bwyd a Diod
Cefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy Raglen Sbardun Cywain yn gyrru busnesau newydd sy’n barod i fasnachu tuag at farchnadoedd newydd Mae busnesau bwyd a diod mwyaf newydd Cymru yn gadael eu marc gyda chynhyrchion sy’n plethu crefft, creadigrwydd ac uchelgais fasnachol. Roedd nifer o’r rhain i’w gweld ym mis Hydref 2025 yn Blas Cymru / Taste Wales, lle daeth prynwyr o bob cwr o’r byd i weld llwyfan gwych ar gyfer y brandiau hyn sy’n dod...
Recriwtio FHA Singapore ar agor nawr
Mae'n bleser gan Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd yn arddangos yn FHA, Bwyd a Diod Singapore 2026. Bydd y sioe yn cael ei chynnal rhwng 21-24 Ebrill 2026 yn Singapore Expo. Sylwer, mae chweched arddangosfa ProWein Singapore, sy'n rhan o Gyfres ProWein y Byd o ffeiriau masnach gwinoedd a gwirodydd blaenllaw, hefyd yn cael ei chynnal yn yr un lleoliad ar yr un pryd. Mae ceisiadau nawr ar agor os hoffech le ym mhafiliwn Cymru...
Rhaglen Twf
Gwahoddir busnesau bwyd a diod i ymuno â’r Rhaglen Twf ar gyfer Briffiadau a Chlinigau Ymgynghorwyr Twf, gan gynnwys: Profiadau go iawn gan arloeswyr Cymreig Diweddariad 'Troi Treth yn Ddigidol 2026' gan Azets Clinigau un-i-un gyda Ymgynghorwyr Twf Rhwydweithio a chinio Cofrestrwch: 10 Chwfror – Bwyd Cymru Bodnant, Conwy - AR GAU Cofrestrwch: 13 Chewfror – Bragdy Tiny Rebel, Casnewydd Cofrestrwch: 17 Chwefror – Canolfan Bwyd Cymru, Horeb - AR GAU