1. Camau ymarferol i gefnogi gweithwyr anabl – cyfarpar

Mae cyfarpar yn rhywbeth rydym i gyd yn dibynnu arno bob dydd.

Peidiwch byth â thybio eich bod yn gwybod pa gyfarpar sydd ei angen ar rywun. Mae pawb yn wahanol ac mae gennym ofynion mynediad gwahanol. Ni fydd un opsiwn sy’n gweddu i bawb.

Rhowch wybodaeth glir i weithwyr anabl am y math o dasgau y byddant yn eu gwneud a pha mor aml. Bydd hyn yn caniatáu iddynt gynllunio ymlaen llaw. Dylech eu cynnwys ym mhob sgwrs sy’n ymwneud â nhw. Y gweithwyr anabl sydd yn y sefyllfa orau o ran adnabod eu nam. Efallai y byddant yn gwybod pa gyfarpar sy'n gweithio orau, neu beth sydd ddim yn gweithio iddyn nhw.
 

2. Datblygiadau ym maes Technoleg

Gwnewch yn siŵr fod ganddynt y cyfarpar a’r feddalwedd ddiweddaraf. Mae datblygiadau yn digwydd yn gyson ac yn gyflym ym maes technoleg. Gallai gweithiwr anabl fod yn defnyddio'r un cyfarpar am flynyddoedd lawer. Efallai y bydd opsiynau mwy newydd ar gael. Mae gofyn i weithiwr anabl "beth sydd ei angen arnoch?" yn dueddol o arwain at ddefnyddio'r un cyfarpar dro ar ôl tro.  Er enghraifft, efallai y bydd angen defnyddio bysellfwrdd a llygoden hygyrch arbenigol ar gyfer nam corfforol sy'n effeithio ar y dwylo.  Gallai hyn helpu i leihau symudiadau yn eu dwylo.  Efallai na fydd y gweithiwr anabl yn ymwybodol o gyfarpar a meddalwedd arall a allai leihau symudiad arddwrn ymhellach.  Yn yr enghraifft hon, efallai mai meddalwedd llais i destun, fel Dragon Speaking, yw'r ateb.  Byddai hyn yn ei gwneud yn bosibl i’r gweithiwr ddefnyddio gorchmynion llais yn hytrach na llygoden a bysellfwrdd safonol, gan olygu ychydig iawn o symud dwylo.  

3. Darparu Cyfarpar a Meddalwedd

Ariennir mynediad at waith (https://www.gov.uk/mynediad-at-waith) gan y llywodraeth. Mae’n darparu cyfarpar a meddalwedd i weithwyr anabl. Bydd mynediad at waith yn cynnal asesiad. Byddant yn gweld pa heriau y mae'r gweithiwr anabl yn eu hwynebu wrth wneud eu gwaith. Byddant yn awgrymu meddalwedd a chyfarpar a all gael gwared ar y rhwystrau hyn. Efallai y bydd cyfnod o aros rhwng asesu a darparu. Yn ystod y cyfnod hwn, siaradwch â'ch gweithiwr. Dylid gweld pa rwystrau y gallent eu hwynebu a gweld a allwch newid eu tasgau tra byddant yn aros am eu cyfarpar. 

Gall siarad ag elusennau fel Scope (https://www.scope.org.uk/) a Chyngor Cymru i'r Deillion  (http://www.wcb-ccd.org.uk/) fod o gymorth. Mae ganddynt daflenni am y cyfarpar cynorthwyol sydd ar gael. Caiff eu gwefannau eu diweddaru ac maent yn cynnwys technoleg newydd. Byddant yn gwybod pa gwestiynau i'w gofyn, a gallant helpu i ddod o hyd i'r cyfarpar mwyaf addas. Maent yn magu dealltwriaeth o'r heriau y mae gweithiwr anabl yn eu hwynebu ac yn cynnig atebion synhwyrol i oresgyn yr heriau hyn. 

Lle y bo'n bosibl, gadewch i'r gweithiwr dreialu’r cyfarpar am ychydig ddyddiau fel y gall weld beth sy'n gweithio iddo. Os nad yw'r gweithiwr yn siŵr, siaradwch ag arbenigwr – gallant helpu i ddarparu gwybodaeth am y mathau o gyfarpar, a ble y gellir cael gafael arno.  Yn ogystal, mae rhai yn cynnig hyfforddiant i sicrhau y gall defnyddwyr ei ddefnyddio ar gyfer yr holl dasgau sydd eu hangen. Mae llawer o elusennau'n cynnig cymorth i ddod o hyd i'r cyfarpar gorau. Efallai y byddant yn gallu cynnig cyfarpar i weithwyr roi cynnig arno cyn prynu. Unwaith y bydd y cyfarpar yn cyrraedd, mae'n ddefnyddiol cynnal hyfforddiant i ddefnyddwyr. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y staff yn gallu defnyddio'r cyfarpar i'w lawn botensial. 

Mae cwmnïau fel Healthy Workstations (https://www.healthyworkstations.com/) yn cynnig asesiadau rhithwir. Maent hefyd yn darparu dodrefn a chyfarpar swyddfa ergonomig, ac mae ganddynt ystafell arddangos. Gall gweithwyr anabl weld pa fathau o gyfarpar sydd ar gael. 

Gall darparu Hyfforddiant Cydraddoldeb i Bobl Anabl ar gyfer pob aelod o staff ar draws y sefydliad cyfan helpu.  Gall hyn fod o fudd i reolwyr ac mae staff yn gwerthfawrogi'r mathau o dechnolegau a meddalwedd cynorthwyol sydd ar gael.  Bydd hyn hefyd yn helpu staff i werthfawrogi'r anghenion gwahanol a allai fod gan bobl anabl. Fodd bynnag, mae'n bwysig peidio byth â thybio bod cyfarpar yn datrys popeth.
 

4. Rhwystrau Technoleg

Byddwch yn ymwybodol o dechnoleg sy'n gallu creu rhwystrau, megis systemau intercom. Mae'r rhain yn aml yn her i bobl â nam ar eu clyw. Ni allant glywed y person sy'n siarad. Gall hyn olygu bod y rhai sydd â nam ar eu clyw yn cael eu gadael y tu allan i adeilad. Byddai defnyddio technoleg fideo yn hytrach na dibynnu ar sain yn unig yn atal hyn rhag digwydd. 

Efallai y bydd y rhai sydd â nam ar eu golwg yn ei chael hi'n anodd darllen hysbysiadau a phosteri. Mae defnyddio ffont mawr, clir ar gefndiroedd cyferbyniol fel du ar wyn, yn helpu'r testun i sefyll allan. Darparwch isdeitlau a llais (ar gyfer testun) ar fideos a chyfryngau y gallai gweithwyr a chleientiaid fod yn cael gafael arnynt.
 

5. Mathau o gyfarpar

Mae'r cyfarpar yn amrywio yn ôl y nam. Mae'r cyfarpar y gallwch ei ddarparu i gefnogi gweithwyr a chleientiaid â namau yn cynnwys:

  • Dolenni Clyw 
    • System sain unigryw a ddefnyddir gan y rhai sy'n gwisgo cymhorthion clyw, sy'n gallu cael mynediad drwy newid i'r gosodiad ‘T’.
    • Helpu i leihau synau cefndir drwy ganolbwyntio ar y seiniau a godir gan feicroffon y system ddolen yn unig.
    • Fe’u defnyddir yn helaeth mewn ysbytai ac archfarchnadoedd.  
  • Bysellfwrdd Braille
    • Bysellfwrdd arbenigol sy'n caniatáu i'r defnyddiwr deipio a rhoi testun mewn Braille 
  • Argraffydd Braille 
    • Argraffwyr sy'n derbyn gwybodaeth gan gyfrifiaduron ac yn creu dotiau cyffyrddol ar bapur trwm.. 
  • Seddi a Desgiau Ergonomig
    • Helpu’r rhai sydd â chefnau gwael a namau eraill i leihau poen a hybu ystum a symudiad da i’r corff, a’u helpu i fod yn gysurus.
    • Wedi’u cynllunio i gynnal iechyd ac effeithlonrwydd gweithwyr.
    • O fudd i weithwyr anabl a gweithwyr nad ydynt yn anabl.

6. Ystyriaethau o ran meddalwedd

Wrth ddatblygu neu ddiweddaru meddalwedd, dylech gynnwys technolegau cynorthwyol o'r cychwyn cyntaf. Os nad yw datblygwyr wedi ystyried anghenion hygyrchedd, bydd angen ail-ddylunio'r cynnyrch. Bydd hyn yn achosi oedi hir. Mae’r Shaw Trust (https://www.shawtrust.org.uk/) yn cynnig gwasanaeth sy'n profi meddalwedd a gwefannau ac yn rhoi cyngor ar eu gwneud yn hygyrch. 

Gall y rhai sydd â nam ar eu golwg ddefnyddio meddalwedd, fel JAWS. Mae JAWS yn ddarllenydd sgrin y gellir ei ddefnyddio ar gyfrifiaduron Windows. Mae JAWS yn caniatáu i ddefnyddwyr â nam ar eu golwg ddarllen y sgrin. Mae hyn naill ai gydag allbwn testun-i-lais neu drwy ddangosydd Braille y gellir ei ddiweddaru. Mae'n gweithio ar draws gwahanol dudalennau HTML, megis gwefannau a chymwysiadau ar y we.

Mae meddalwedd adnabod llais Dragon yn trosi geiriau llafar yn rhai ysgrifenedig. Mae defnyddwyr yn rheoli eu cyfrifiaduron drwy lais gan ddefnyddio gorchmynion llais sengl drwy feicroffon. 

Mae'r cyfarpar a'r feddalwedd gywir yn golygu y gall gweithiwr anabl gyflawni ei ddyletswyddau i'r un lefel â gweithiwr nad yw'n anabl, gan gynnig manteision i'r gweithle.