Disgrifiad o’r prosiect

Archwilio ffyrdd newydd o sicrhau arferion byw yn iach sy’n gynaliadwy a buddiannau chwaraeon yng nghanol cymunedau gwledig. Cynnig cyfleoedd i ddatblygu iechyd a ffitrwydd trwy’r sesiynau Cyn-Bedal a ffitrwydd allgymorth a chyfleoedd creadigol yng Nghonwy wledig.

Beth fydd y prosiect yn ei gyflawni?

Bydd y prosiect yn sicrhau arferion byw yn iach sy’n gynaliadwy a buddiannau chwaraeon. Gwell defnydd o’r neuaddau cymunedol a hyrwyddo busnes lleol trwy gael pobl leol i redeg y sesiynau trwy gyfrwng y Gymraeg, darparu incwm mawr ei angen i ganolfannau cymunedol lleol a hefyd ddarparu gwasanaethau iach fforddiadwy a chynaliadwy i’r gymuned wledig.

Pwy fydd yn elwa ar y prosiect?

Pawb. Bydd pobl ifanc, oedolion, pobl hŷn a phlant (dan 5 oed a’u teuluoedd) yn cael budd o’r prosiect hwn gyda phwyslais ar ymgysylltu â’r grwpiau gyda’i gilydd lle bo modd ar yr un pryd.

Beth oedd canlyniad eich prosiect?

Anogodd y cynllun fwy o bobl i fod yn heini trwy gael gwared â rhwystrau fel teithio ac amgylchoedd anghyfarwydd. Mae nifer y bobl yng Nghonwy wledig sy’n cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol wedi codi flwyddyn ar ôl blwyddyn ers 2009. Mae gan y cynllun deimlad personol iddo oherwydd bod cymunedau lleol yn helpu i lunio’r math o weithgareddau a gynigir, ac mae’n cynnig dewis lleol i bobl am bris fforddiadwy. Mae mwy na 400 o bobl yr wythnos yn mwynhau’r dosbarthiadau ffitrwydd (23 awr o ddarpariaeth gymunedol bob wythnos). Mae’r prosiect cyfan wedi dod yn hunangynhaliol; darparu swyddi lleol gyda phwyslais ar hyfforddwyr sy’n siarad Cymraeg ac incwm ychwanegol ar gyfer canolfannau cymunedol ac ysgolion gwledig.

Beth oedd yr heriau a’r/neu’r gwersi mwyaf a ddysgwyd ar gyfer eich prosiect?

Er mwyn gwneud y prosiect hwn hyd yn oed yn fwy llwyddiannus mae angen rhagor o gyllid ac mae’n rhaid i ddatblygu hyfforddwyr Cymraeg fod yn flaenoriaeth allweddol. Fodd bynnag, mae nifer o hyfforddwyr a oedd yn siarad ychydig o Gymraeg wedi gweld y prosiect hwn yn fuddiol o safbwynt gwella eu sgiliau Cymraeg eu hunain trwy gymorth y plant a’r ysgolion lleol. Mae’r ddau wedi cael budd o iaith ei gilydd ar lefel rheng flaen. 

Beth sydd nesaf ar gyfer eich prosiect?

Mae’r prosiect bellach wedi dod yn gynaliadwy trwy godi tâl am sesiynau, £4.20 ar gyfer y gweithgareddau hamdden a £2 ar gyfer sesiynau BalanceBike, sy’n cael eu darparu fel rhan o’r cynnig Hamdden ar gyfer y sir.