Grŵp Gweithredu Ynni Lleol (LEAF)

Bydd y cynllun peilot arloesol hwn yn cynnwys pum cymuned leol syn anelu at gynhyrchu a masnachu ynni cynaliadwy. Bydd y prosiect yn recriwtio un Rheolwr Prosiect rhan amser a thri Swyddog Prosiect; recriwtio 5 clwstwr o wirfoddolwyr, 3-5 hyrwyddwr prosiect; cyflwyno rhaglen ddwys o weithgareddau syn ymgysylltu dinasyddion mewn digwyddiadau cymunedol / ar garreg y drws / trwy gyfryngau ar-lein / print; adeiladu gallu Ynni Cymunedol Sir Benfro fel canolfan ar gyfer pum prosiect allweddol syn gweithredu ar ynni cynaliadwy - cydlynu a galluogi mynediad i gefnogaeth, sgiliau, gwybodaeth, profiad a rhannu dysgu; Cyflwyno sesiynau meithrin gallu/ lledaenu gwybodaeth, yn ogystal â theithiau casglu ffeithiau i brosiectau cymunedol eraill. Bydd LEAF yn creu Grŵp Gweithredu o swyddogion a gwirfoddolwyr i yrru prosiectau syn symud Sir Benfro tuag at economi carbon isel.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£166,089
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Sir Benfro
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Peter Davies
Rhif Ffôn:
07976 457032
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.communityenergypembrokeshire.org/

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts