Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi penodi dau Swyddog Iechyd Praidd a Gyr fel rhan o’i raglen uchelgeisiol, sef y Rhaglen Datblygu Cig Coch, er mwyn paratoi’r diwydiant cig oen a chig eidion yng Nghymru ar gyfer newidiadau yn y dyfodol.
Mae'r swyddi’n allweddol i ymrwymiad y rhaglen i helpu ffermwyr i fod yn fwy effeithlon a hybu arferion gorau wrth gynllunio ynghylch iechyd anifeiliaid.
Cefnogir y rhaglen gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Daw Lowri Reed o gefndir amaethyddol ger Llan-non yng nghanol Ceredigion. Mae Lowri Williams yn dod o Lanfihangel-y-Creuddyn ger Aberystwyth, ac enillodd radd mewn Rheoli a Lles Anifeiliaid ym Mhrifysgol Harper Adams.
Dywedodd Dr Rebekah Stuart, cydlynydd y Prosiect Iechyd Praidd a Gyr yn HCC:
“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi recriwtio dau swyddog â phrofiad a gwybodaeth am amaethyddiaeth a rheoli da byw i'r gwaith pwysig hwn.
“Ychydig iawn o bethau sy’n cael cymaint o effaith ar effeithlonrwydd mentrau da byw ag yw bod yn rhagweithiol a chydlynol o ran iechyd anifeiliaid a dileu clefydau.
“Bydd y prosiect yn helpu ffermwyr i weithio gyda milfeddygon i roi cynlluniau iechyd ar waith a chadw llygad ar eu heffeithiolrwydd. Ers gwahodd ffermwyr i fynegi diddordeb ddiwedd y llynedd yn y Ffair Aeaf, mae’n galonogol gweld faint o ffermwyr sydd am gymryd rhan. Edrychwn ymlaen at gydweithio â nhw wrth i ni roi’r prosiect cyffrous hwn ar waith.”