Agorodd y cynllun uchod ar 1 Chwefror 2019 Mae'n gronfa buddsoddi cyfalaf sydd ar agor i berchnogion coedwigoedd preifat, perchnogion coedwigoedd awdurdodau lleol a pherchnogion eraill yn y sector cyhoeddus, a busnesau micro, bach neu ganolig. Gellir defnyddio’r gronfa ar gyfer gwelliannau sy'n ychwanegu gwerth at goedwigoedd ar gyfer gweithgareddau rheoli coetir, cynaeafu pren a/neu brosesu pren.
Dyma enghreifftiau o'r gweithgareddau sy'n gymwys:
- defnyddio pren fel deunydd crai a ffynhonnell ynni cyn unrhyw gamau prosesu diwydiannol
- buddsoddi mewn cynhyrchu sglodion coed neu beledi ar raddfa fach naill ai o fewn y goedwig, neu fel gweithgaredd sy'n gysylltiedig â gweithrediadau cyn unrhyw gamau prosesu diwydiannol
- datblygiadau sy'n gysylltiedig â meithrinfeydd coedwig fel rhan o ddaliad coedwig (cynhyrchu er mwyn bodloni anghenion y daliad ei hun)
- buddsoddiadau diriaethol a/neu anniriaethol a fydd yn gwella potensial o ran coedwigaeth neu sy'n ymwneud â symud (cynaeafu), prosesu ac ychwanegu gwerth at gynhyrchion coedwigoedd
Rhaid i fuddsoddiadau fod yn gysylltiedig â gwella gwerth economaidd coedwigoedd penodol. Rhaid iddynt gael eu cyfiawnhau mewn perthynas â gwelliannau disgwyliedig i goedwigoedd ar un neu fwy o ddaliadau, a dylent ganolbwyntio ar fuddsoddi mewn peiriannau ac arferion cynaeafu nad ydynt yn defnyddio llawer o adnoddau.
Mae'r cynllun yn cau ar 28 Ebrill 2019. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru