- Lleoliad:
-
Sir Benfro
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£14980.00
Crynodeb o’r prosiect:
Dechreuodd Canolfan Arloesi ac Adfywio Haverhub fel astudiaeth gwmpasu uchelgeisiol, gyda grŵp llywio a wnaeth gais am gymorth i Arwain Sir Benfro. Pan ddaeth adeilad addas ar y farchnad yn sydyn, ymgorfforwyd Haverhub CIC, menter gymdeithasol, gan fynd ati i chwilio am ffyrdd o sicrhau’r safle. Goddiweddwyd y cais gwreiddiol am fodel i adfywio canol y dref, gan gynhyrchu ‘glasbrint’ y gellid ei rannu, gan heriau safle ymarferol.
Y syniad gwreiddiol oedd gweld a allai adeilad canolog penodol arwain at adfywiad cymunedol fel lle sy’n dod â phobl ynghyd, i gydweithredu ar syniadau prosiect diwylliannol, masnachol a chymdeithasol. Roedd y ffocws ar ymgysylltiad cymdeithasol ac annog dinasyddiaeth weithredol er budd y gymuned ehangach.
Yn ystod yr amser rhwng cyflwyno EOI a’r cais llawn i Arwain Sir Benfro, bu tîm datblygu’r prosiect yn cysylltu â phobl y dref trwy’r cyfryngau cymdeithasol, gan ddarganfod fod yna lawer o gefnogaeth a brwdfrydedd dros eu cynigion.
Ystyriwyd nifer o adeiladau i ddechrau, a dynodwyd adeilad yr hen Swyddfa Bost yn Stryd y Cei fel un â nodweddion penodol a fyddai’n gwahodd pobl i ddefnyddio’u dychymyg ac ystyried posibiliadau at ei ddefnydd. Roedd maint a chyfrannau’r adeilad, ac amlbwrpasedd gofodau mawr a bach, ffurfiol ac anffurfiol dan do, yn cynnig posibiliadau defnydd cymysg.
Beth ddigwyddodd:
Talodd cyllid LEADER, gyda swm cyfatebol yn cael ei roi gan Gyngor Tref Hwlffordd, am gydgysylltydd prosiect rhan amser am bedwar mis, gan helpu Haverhub hefyd i sicrhau’r adeilad trwy ffioedd i gyflwyno cais cynllunio a ‘gwneud yr holl bethau sy’n rhaid eu gwneud cyn i chi wneud cais am grantiau adnewyddu’. Roedd hyn yn cynnwys gosod yr adeilad yn gadarn ar fap adfywio strategol y dref, fel rhan o Gynllun Meistr Tîm y Dref.
Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau cymunedol yn Haverhub yn ystod y prosiect, gan gynnwys ‘ôl-barti’ ar gyfer yr Orymdaith Lusernau Afon o Oleuadau flynyddol, sioe Beiciau Clasurol, nosweithiau Lleisiol a’r parti lansio.
Y canlyniad:
Mae’n rhy fuan i werthuso llawer o ganlyniadau cymunedol y prosiect, gan mai’r prif ffocws yn ystod y prosiect fu cael y cyllid angenrheidiol i adnewyddu’r adeilad.
Mae gweithgareddau hyrwyddol wedi arwain at ddatblygu partneriaethau gyda rhwydwaith eang o unigolion a grwpiau sy’n bwriadu defnyddio Haverhub mewn ffyrdd amrywiol. Mae hyn yn cynnwys: cerddorion yn ei ddefnyddio fel lle i ymarfer a pherfformio, lle arddangos i artistiaid, man desg boeth ar gyfer entrepreneuriaid, a
gweithgareddau a dosbarthiadau a fydd yn ehangu’r ddemograffeg sy’n defnyddio’r adeilad.
Cefnogwyd Haverhub gan brosiect Busnes Cymdeithasol Cymru Canolfan Cydweithredol Cymru i gynhyrchu Cynllun Busnes tair-blynedd a hefyd gan staff Arwain Sir Benfro i geisio am gyllid RCDF i adnewyddu rhan o’r adeilad a’i baratoi ar gyfer defnydd cyhoeddus ehangach. Ynghyd â chyllid cyfalaf arall, mae Haverhub wedi sicrhau £250 mil ar gyfer y cyfnod cyntaf o adnewyddiadau, yn cychwyn yn haf 2018, gyda tho sied newydd yn syth ar ôl gŵyl codi arian Haverbeer ym mis Awst.
Gwersi a Ddysgwyd:
Mae perthnasau yn hanfodol mewn prosiect o’r math hwn ac mae cadw pobl i gyfranogi yn cymryd amser ac egni.
Roedd yn her cadw’r gwirfoddolwyr i gyd pan fo’r broses o gael grantiau i adnewyddu’r adeilad yn un araf a llafurus, ac roedd gan bobl ddiddordebau a galwadau eraill ar eu hamser.
Yr her fwyaf i gydgysylltydd y prosiect oedd bod yr holl amser ac egni oedd eu hangen i ddatblygu cynigion cyllid a cheisio am grantiau yn golygu fod yna lai o amser i ymgysylltu â phobl a chadw gwirfoddolwyr i gyfranogi. Fodd bynnag, yn awr fod cyllid wedi’i sicrhau ar gyfer adnewyddiadau Cyfnod 1, gall ymgysylltiad cymunedol fynd rhagddo unwaith yn rhagor.
Mwy o wybodaeth am y prosiect:
- Enw:
- Gitti Coats
- Rhif Ffôn:
-
01437 741678
- Cyfeiriad e-bost:
- gitticoats@outlook.com
- Email project contact
- Gwefan y prosiect:
- http://www.haverhub.org.uk