Prosiect dan arweiniad ffermwyr sy’n canolbwyntio ar wella ansawdd ecolegol Afon Eden a’i llednentydd ar raddfa’r dalgylch gyfan drwy blannu a rheoli coed collddail brodorol. Bydd y buddion eraill yn cynnwys gwella cynefinoedd naturiol, atal erydiad, lleihau nwyon tŷ gwydr a defnyddio llai o danwydd ffosil. Bwriedir i grŵp o hyd at 22 o fusnesau fferm yn yr ardal cadwraeth arbennig hon i gydweithredu i roi’r prosiect ar waith.
Thema gyffredinol y prosiect yw gwella dalgylch yr afon, yn enwedig o ran diogelu’r misglod perlau dŵr croyw. Caiff hyn ei wneud drwy weithio gyda ffermwyr ac ymgysylltu â’r gymuned leol i gymryd camau amrywiol a fydd yn cryfhau ecoleg y dalgylch ac yn datblygu dulliau cynaliadwy o reoli tir.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£815,444
- Ffynhonnell cyllid:
-
Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy
- Ardal:
-
Gwynedd
- Cwblhau:
-
- Cynllun Dalgylch Yr Afon Eden Catchment Project
Cyswllt:
- Enw:
- Dafydd Owen
- Cyfeiriad e-bost:
- rhys.owen@eryri-npa.gov.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts