Nod y prosiect yw cynyddu capasiti'r gwaith bragu a photelu cyfredol a galluogi'r cwmni i fanteisio ar farchnadoedd cartref a marchnadoedd allforio newydd yn Sweden, yr Eidal a Sbaen a gallu gwerthu ei gynhyrchion arobryn i fanwerthwyr lluosog newydd, yn cynnwys marchnadoedd organig a di-glwten. Bydd ychwanegu'r cyfarpar newydd yn galluogi'r cwmni i fragu ac eplesu mwy o gwrw, a photelu mwy o gwrw; gan botelu'n fewnol a chynyddu maint yr elw.
Bydd hyn yn golygu defnyddio mwy o ddeunyddiau crai, yn cynnwys haidd bragu a hopys o Brydain a'r UE. Mae'r cwmni'n gyflogwr mawr yn nhref wledig Llandeilo, a bydd y prosiect hwn yn diogelu swyddi cyfredol ac yn creu cyfleoedd cyflogaeth newydd.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£62,465
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd
- Ardal:
-
Sir Gaerfyrddin
- Cwblhau:
-
Cyswllt:
- Enw:
- Simon Buckley
- Cyfeiriad e-bost:
- simonbuckley@westcoastbrands.com
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts