"Rydym yn dod â phartneriaid ynghyd i sefydlu cadwyn gyflenwi gymhleth sy'n gallu darparu ynni adnewyddadwy lleol i gwsmeriaid trydan gan ddefnyddio model busnes unigryw i gynyddu'r elw i gynhyrchwyr a lleihau biliau cartrefi drwy ddatblygu marchnad leol i gydbwyso pŵer. Bydd y gadwyn gyflenwi hon yn cefnogi hyd at 25 cynllun peilot ledled Cymru ond bydd yn gallu darparu enghreifftiau eraill ar ddiwedd y prosiect hefyd heb gymhorthdal pellach.
Byddwn yn hyfforddi cynghorwyr i hwyluso ffurfio Clybiau Ynni Lleol. Byddwn yn profi dulliau gwahanol o leihau a newid amser y galw a gwerthuso effaith bosibl marchnadoedd lleol ar fuddsoddiad cynhyrchu newydd."
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£270,150
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cynllun Cydweithio
- Ardal:
-
Bro Morgannwg
- Cwblhau:
-
Cyswllt:
- Enw:
- Robert Proctor
- Cyfeiriad e-bost:
- Robert@communityenergywales.org.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts