Prif bwrpas y prosiect yw cynyddu capasiti cynhyrchu (rydym yn rhedeg ar gapasiti llawn ar hyn o bryd) a chreu amrywiaeth yn ein cynhyrchion. Mae hyn yn cynnwys prynu safle mwy a chyfarpar arbenigol i gynyddu ein capasiti cynhyrchu cyfredol ddeg gwaith o leiaf ac i gynhyrchu'n fwy effeithlon (fesul uned). Mae'r safle arfaethedig yn 6000 troedfedd sgwâr - digon mawr ar gyfer cyfarpar bragu 10BBL a chyfarpar cynhyrchu cysylltiedig, swyddfa, man storio ac ystafell oer.
Bydd casgenni ychwanegol yn cael eu prynu i ddefnyddio'r capasiti cynhyrchu mwy hwn. Bydd y cyfarpar yn darparu'r gallu i gynhyrchu cwrw casgen fach (keg), drwy danciau CT (llestri oer dan bwysau, dim ond cwrw casgen (cask) rydym yn ei gynhyrchu ar hyn o bryd) ac yn ein galluogi i gynhyrchu llawer mwy o fathau o gwrw a rhoi'r capasiti i ni gyflenwi manwerthwyr a chyfanwerthwyr cenedlaethol.
Bydd y safle'n cynnwys 'hyb cwrw cartref' a siop cwrw crefft - gan fanteisio ar y farchnad cwrw cartref gynyddol (a eglurir yn fanylach yn adran 3) a chynyddu cysylltiadau a chyfranogiad cwsmeriaid. Bydd cyfran o gyfanswm gyllid y prosiect yn cael ei wario ar gludo (danfoniadau), cyfarpar warws (wagen fforch godi/tryciau paledau ac ati) gan roi'r gallu i ni gynhyrchu a rheoli stoc i gyflenwi'n cwsmeriaid cynyddol.
Bydd cyfran o'r cyllid yn cael ei ddyrannu i'n hymrwymiadau cynaliadwyedd a'r Siarter Datblygu Cynaliadwy hefyd.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£128,562
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd
- Ardal:
-
Sir Benfro
- Cwblhau:
-
Cyswllt:
- Enw:
- James Bevan
- Cyfeiriad e-bost:
- info@tenbybrewingco.com
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts