Amcanion y prosiect yw darparu'r cyfleusterau i gynyddu nifer y buchod sugno o 30 i 60.
• Adeilad slatiau a storfa slyri, dyma'r prif fuddsoddiad a fydd yn galluogi'r cynnydd yn nifer y gwartheg o 30 i 60. Mae'r storfa slyri fwy yn hanfodol i ddefnyddio maetholion yn well.
• Bydd yr adeilad yn dal gwartheg sy'n cael eu pesgi hefyd ac yn rhyddhau'r defnydd o hen adeiladau gwartheg rhag gorfod cadw gwartheg. Nid oes awyriad da yn yr hen adeiladau ac maent yn llafurddwys.
• Bydd gorchuddio'r ardal fwydo allanol yn Parc yn lleihau faint o ddŵr budr a gynhyrchir yn sylweddol.
• Y bwriad yw adeiladu adeilad ar gyfer storio grawn, mae'r fferm yn tyfu 20 erw o farlys at ei defnydd ei hun. Mae'r buddsoddiad hwn yn bwysig i fodloni safonau Gwarant Fferm a bydd yn cyflymu'r broses o lenwi'r silo grawn adeg cynhaeaf ac yn gwneud y broses rholio yn llai llafurddwys.
• System craets a thrafod gwartheg, bydd y buddsoddiad hwn yn gwneud tasgau hwsmonaeth rheolaidd yn fwy diogel ac yn fwy ystyriol o les yn enwedig gan fod y gwartheg sy'n cael eu pesgi yn cael eu pwyso'n rheolaidd. Mae darllenydd EID y gall defaid a gwartheg ei ddefnyddio wedi'i gynnwys yn y buddsoddiad hefyd.
• Mae'r pwmp dŵr a'r tanciau dŵr yn fuddsoddiadau da i leihau costau prynu dŵr a lleihau baich carbon y prif gyflenwad dŵr.
• Aradr isbridd, bydd hwn yn lleihau effeithau cywasgu ac yn gwella draeniad pridd. Dylai arwain at gynnydd mewn glaswellt sych a gynhyrchir a gwella cyfraddau twf anifeiliaid a phwysau lladd. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i leihau allyriadau hefyd.
• Technoleg GPS, bydd hyn yn galluogi gwaith mwy cywir ar gaeau wrth gyflawni tasgau fel defnyddio gwrtaith, torri silwair ac ati. Y nod yw defnyddio'r maetholion hyn yn fwy cywir, arbed costau diesel a lleihau cywasgiad pridd.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£59,694
- Ffynhonnell cyllid:
-
Grant Cynhyrchu Cynaliadwy
- Ardal:
-
Gwynedd
- Cwblhau:
-
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts