Mae'r buddsoddiad hwn yn rhan o brosiect ehangach i ddatblygu cyfres o brofiadau Rhithwir i bobl sy'n ymweld â Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon, gan ddarparu'r elfennau cyfalaf ar gyfer prosiect refeniw Cronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol (RTEF) lle y bydd ymwelwyr, gan ddefnyddio gwylwyr Google Cardboard, yn gallu cael profiad rhithwir ar eu ffôn clyfar. Gwnaeth cronfa RTEF gynnig ffurfiol o £50k ym mis Gorffennaf 2017 tuag at gostau datblygu gan ddefnyddio technoleg rhithwir arloesol a chosteffeithiol Google. Fel rhan o'r profiad, bydd ymwelwyr yn teithio yn ôl i'r 19eg ganrif lle y byddant, gan ddefnyddio gwaith animeiddio datblygedig, yn gallu gweld sut y byddai tri safle allweddol o fewn Safle Treftadaeth y Byd wedi edrych ac wedi swnio, sef; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon a Thref Treftadaeth Blaenafon.
Gwnaed y cais hwn am Gymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS) mewn perthynas â thair mainc Teithio'n Ôl mewn Amser mewn tri safle allweddol. Bydd ymwelwyr yn gwisgo gwyliwr Google Cardboard a chan ddefnyddio eu ffôn eu hunain (ffonau clyfar Android ac IoS), byddant yn gallu lawrlwytho'r ap am ddim a chael eu tywys yn ôl drwy fyd rhithwir, gan ddefnyddio gwaith animeiddio i ddangos y gweithwyr/cymuned â'u bywydau beunyddiol fel y byddent wedi byw yn y 19eg Ganrif, gan bortreadu'r caledi a'r amodau yr oedd y gweithwyr, teuluoedd a chymunedau yn eu dioddef ond gan ddefnyddio hiwmor hefyd i ddangos y cyfeillgarwch rhwng y gweithwyr. Bydd y tair mainc yn adlewyrchu'r diwydiant o ran eu dyluniad ac o ran y deunyddiau a ddefnyddir.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£19,600
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS)
- Ardal:
-
Torfaen
- Cwblhau:
-
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts