Ar hyn o bryd, ceir trefniadau parcio anffurfiol ym Mhontneddfechan gyda phobl yn parcio ar hyd y brif ffordd i mewn i'r pentref. Gan nad oes unrhyw ddarpariaeth parcio ceir amgen yn agos at fynedfa'r llwybr drwy'r Sgydau, mae ymwelwyr yn parcio mewn ffordd anghyfrifol sy'n golygu bod y ffordd yn beryglus a chan arwain at bryderon a chwynion rheolaidd gan y gymuned.
Nodwyd bod angen ateb i'r pwysau o ran parcio ceir ym Mhontneddfechan fel cam blaenoriaeth penodol yng Nghynllun Rheoli Cyrchfannau Castell-nedd/Port Talbot, ac fel rhan o Gynllun Rheoli Cyrchfannau Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy'n nodi bwriad clir i geisio dod o hyd i ateb. Mae ymwelwyr hefyd yn cael profiad gwael o ganlyniad. Felly, nod y prosiect yw creu tua 43 o leoedd parcio oddi ar y ffordd yn y ganolfan ymwelwyr ym Mhontneddfechan gan gynyddu'r ddarpariaeth barcio bresennol, cynnig cyfleusterau parcio mwy diogel a gwella'r profiad i ymwelwyr a chynyddu'r amser y byddant yn ei dreulio yn y lleoliad yn sylweddol.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£88,822
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS)
- Ardal:
-
Castell-nedd Port Talbot
- Cwblhau:
-
Cyswllt:
- Enw:
- Karleigh Davies
- Cyfeiriad e-bost:
- k.davies16@npt.gov.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts