"Mae amcanion Cynllun Cyrchfannau'r Fro yn cynnwys datblygu economi ymwelwyr lewyrchus a chan fod prif faes parcio'r traeth a maes parcio'r Ganolfan Arfordir Treftadaeth mewn cyflwr gwael, mae'r awdurdod lleol yn cydnabod yr angen i uwchraddio seilwaith sylfaenol yr ardal er mwyn helpu i wella'r apêl i ymwelwyr. Felly, cynigir y gwaith canlynol:
• gosod arwyneb newydd ar brif faes parcio caled y traeth, gosod arwyneb ar y maes parcio bach wrth ochr y Ganolfan Treftadaeth a gosod arwyneb newydd ar y blaengwrt cyhoeddus o flaen y Ganolfan Arfordir Treftadaeth. Bydd y gwaith yn sicrhau bod ardaloedd digonol i sicrhau mynediad i'r anabl/lleoedd parcio; caiff yr ardaloedd parcio eu marcio'n glir, gan wella llif y traffig ar y safle a chynyddu lleoedd parcio i'r eithaf.
• ardaloedd cerdded diogel i bobl, gan sicrhau y bydd trefniadau mynediad gwell ar waith i unigolion sy'n ymweld â'r safle ac y bydd ganddynt gysylltiad uniongyrchol â Llwybr Arfordir Cymru
• gwaith i adnewyddu'r bloc toiledau allanol yn y Ganolfan Arfordir Treftadaeth yn llwyr; bydd sychwyr dwylo ynni-effeithlon a systemau goleuadau ynni-effeithlon ym mhob toiled
• gwelliannau i'r gawod/ystafell wlyb er mwyn sicrhau ei bod yn cydymffurfio â rheoliadau'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd a'i bod yn addas i'w defnyddio gan bawb, gan gynnwys darparu mynediad ramp i'r cyfleuster. Bydd yr ardal newid wlyb newydd hon yn golygu y bydd grwpiau cymunedol a sefydliadau masnachol trydydd parti yn gallu datblygu'r cynnyrch a gynigir ganddynt ac yn helpu i ddatblygu'r safle fel canolbwynt ar gyfer gweithgareddau awyr agored sy'n gysylltiedig â dŵr. • dulliau newydd ar gyfer storio a chasglu sbwriel er mwyn galluogi'r safle i gyflawni statws Baner Las.
• Gwelliannau i'r prif arwyddion yn y ganolfan ymwelwyr. "
Mae'r Prosiect ar draws 3 lleoliad, fel yr rhestir isod -
Bron Y Graig, Harlech, LL46 2SR
High St, Bethesda, Bangor, LL57 3AR
Tegis St, Bala, LL23 7EL
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£120,000
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS)
- Ardal:
-
Gwynedd
- Cwblhau:
-
Cyswllt:
- Enw:
- Amanda Murray
- Cyfeiriad e-bost:
- Amandamurray@gwynedd.llyw.cymru
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts