Nod y prosiect yw ychwanegu dwy 'Ganolfan Profiad Cwsmeriaid' ar ddau o'r traethau allweddol mwyaf poblogaidd ar hyd Penrhyn Llŷn. Mae'r safleoedd ym Mhorthdinllaen a Phorthor, sef y safleoedd mwyaf eiconig a phoblogaidd yn y rhanbarth gyda'r ddau yn denu mwy na 100k o ymwelwyr y flwyddyn. Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithredu meysydd parcio ar y ddau safle ac mae angen adnewyddu'r cabanau croeso i ymwelwyr. Nod y prosiect yw adeiladu canolfannau profiad cwsmeriaid newydd sy'n addas at y diben yn lle'r hen gyfleusterau presennol, gan gynnig amrywiaeth o wybodaeth i ymwelwyr drwy ddulliau digidol a thraddodiadol a llenwi'r bwlch a adawyd yn sgil cau'r Canolfannau Croeso yn yr ardal.
Bydd dyluniad y ddau adeilad yn dilyn y gwersi a ddysgwyd o ddatblygiad Porth y Swnt ac yn ystyried 'ysbryd lle' y safleoedd. Caiff hanes a diwylliant y safleoedd eu rhyngblethu drwy'r gwaith dylunio. Fel rhan o'r prosiect, mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn bwriadu cyflwyno trydydd gweithgaredd ym Mhorthor er mwyn ategu'r ddarpariaeth caiacio a phadlfyrddio wrth sefyll bresennol a fu'n llwyddiannus yn Aberdaron a Phorthdinllaen. Bydd y canolfannau yn gweithredu fel safle ar gyfer hyrwyddo'r gweithgareddau hyn yn ogystal â'u trefnu. Bydd toiledau newydd wedi'u huwchraddio a chyfleusterau cawod newydd ar gael yn adeilad newydd Porthor.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£84,000
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS)
- Ardal:
-
Gwynedd
- Cwblhau:
-
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts