Y cysyniad yw prosiect porth ac arwyddion integredig a fydd yn croesawu ymwelwyr mewn ceir a bysiau i'r Parc Cenedlaethol ar ffin ddeheuol y cyrchfan, gan eu tywys wedyn ar daith ar hyd coridor yr A470 (Taith Cambria) tuag at Bwyntiau Croeso allweddol. Mae pob Pwynt Croeso yn gwbl hygyrch i deithwyr ar fysiau ac eithrio Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol (bydd angen cerdded ychydig) a Llyn Llangors. Caiff cynnwys yr arwyddion cyfeiriadu/gwybodaeth ei ddatblygu fel rhan o'r prosiect a bydd yn canolbwyntio ar farchnadoedd targed allweddol Croeso Cymru a chyrchfannol ac yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol: Ffordd Cymru; gwybodaeth sy'n benodol ar gyfer ei lleoliad; cyfeirio ymwelwyr i leoedd sy'n cynnig profiadau o ansawdd uchel i ymwelwyr, sy'n hawdd eu cyrraedd o'r A470, gan ehangu budd y llwybr y tu hwnt i'r coridor uniongyrchol.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£128,000
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS)
- Ardal:
-
Powys
- Cwblhau:
-
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts