"Diben y prosiect hwn yw gwella mynediad a chyfleusterau ar draethau baner las: • Abersoch – Gwella'r ffordd fynediad i'r cyhoedd ac i gerbydau i'r traeth:
• Pwllheli - Gwella ac ehangu mynediad gan ddefnyddio'r llwybr bordiau i'r traeth
• Aberdaron – Gwella mynediad i'r cyfleuster lansio cychod a'r toiledau cyhoeddus ar y traeth
• Pob Lleoliad – Darparu arwyddion gwybodaeth ac arwyddion diogelwch cyson ar gyfer pob traeth
• Pob Lleoliad – Gwella arwyddion dehongli a chyfeirio ar gyfer pob traeth
Cadarnhaodd arolygon diweddar fod 54k o bobl wedi defnyddio Llwybr Arfordir Cymru ger Abersoch yn ystod 2016/17, fod 80k o bobl wedi defnyddio'r prif faes parcio yn Aberdaron a bod 15k o bobl wedi defnyddio toiledau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Aberdaron. Mae'r niferoedd ymwelwyr hyn yn pwysleisio pwysigrwydd gwella mynediad i'r traeth a chyfleusterau yn yr ardal. "
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£114,480
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS)
- Ardal:
-
Gwynedd
- Cwblhau:
-
Cyswllt:
- Enw:
- Llyr B Jones
- Cyfeiriad e-bost:
- llyrbjones@gwynedd.llyw.cymru
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts