Nod y prosiect yw datblygu'r Ardd Gaerog yng Nghastell Caeriw, gan greu lleoedd ychwanegol ac ysbrydoledig i ymlacio, archwilio, mwynhau ac ymgysylltu fel rhan o'r profiadau a gynigir eisoes. Bydd yn gwella'r safle er mwyn creu atyniad o'r radd flaenaf i ymwelwyr, llawn cystal â chestyll eraill mwy o faint, ac yn sicrhau statws Caeriw ymhlith cyrchfannau poblogaidd Cymru. Bydd yr Ardd Gaerog ar ei newydd wedd yn cynnwys y canlynol; Man natur - caiff yr ardal arwynebedd galed digroeso bresennol ei hadfywio i greu gardd o ansawdd uchel gan gyfuno gwaith tirlunio a gwaith plannu brodorol er mwyn denu bywyd gwyllt, gwenyn/pryfed a phoblogaeth ystlumod breswyl; ffrwythau a llysiau sy'n berthnasol i oes y Tuduriaid, gan hyrwyddo cynaliadwyedd; mannau y gellir eu defnyddio gan ymwelwyr, ysgolion, cymunedau ac ar gyfer digwyddiadau diwylliannol.
Man antur – creu ardal chwarae antur â blociau adeiladau 'castell' mawr i ymwelwyr ddylunio ac adeiladu castell, ynghyd â strwythur pren llawn hwyl i'w archwilio a'i fwynhau, gan gynnwys cerflun chwarae o Gawr yn seiliedig ar chwedl y cawr cysglyd 'Skomar Oddy' sy'n byw mewn ogof ac ond yn deffro unwaith bob can mlynedd. Man i ysbrydoli - mynedfa ar wahân i 'ardd gudd', yn benodol i grwpiau o blant sy'n ymweld h.y. gwersylloedd haf ysgolion a gaiff eu tywys yn ôl i gyfnod Harri Tudur ar yr orsedd. Man i fwynhau – ardal barhaol â phebyll sy'n darparu lleoliad ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau diwylliannol, gan gynnwys ffeiriau crefft a bwyd, cerddoriaeth acwstig, pypedwaith, sesiynau crefft a gweithdai.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£123,212
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS)
- Ardal:
-
Sir Benfro
- Cwblhau:
-
Cyswllt:
- Enw:
- Daisy Hughes
- Cyfeiriad e-bost:
- daisyh@pembrokeshirecoast.org.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts