Prosiect Gweithwyr Chwarae Cymunedol

Mae cyllid at ddiben cefnogi chwarae yng Nghymru wedi'i leihau'n sylweddol. Roedd sgyrsiau a gafwyd fel rhan o Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Castell-nedd Port Talbot wedi amlygu bod plant a theuluoedd yn teimlo bod rhwystrau i gael mynediad at chwarae. Y tri phrif rwystr oedd cost, y tywydd a thechnoleg.

Bydd y prosiect hwn yn helpu plant a rhieni i ddeall nad oes angen i chwarae gostio unrhyw beth, gellir ei wneud boed law neu hindda ac nid oes angen iddo gynnwys y defnydd o sgriniau! Mae pedwar Gweithiwr Chwarae Cymunedol yn cael eu recriwtio i weithio gydag ysgolion er mwyn cynnal prosiect gwella chwarae.

Bydd y gweithwyr chwarae'n cefnogi ac yn ehangu chwarae plant drwy weithredu ar ysgogiadau i ymyrryd â syniadau, awgrymiadau a chefnogaeth.  Byddant yn annog y defnydd diogel o gyfarpar a rhannu rhydd (eitemau jync a ddefnyddir ar gyfer chwarae) a gwaith gydag Arwyr Chwarae (plant o flwyddyn 5/6 a benodir fel gwellhawyr chwarae) ac yn y gymuned leol i gynnig sesiynau chwarae mewn digwyddiadau allgymorth i wella'r ddealltwriaeth o chwarae a nifer y plant sy'n manteisio ar gyfleoedd chwarae.

Bydd data a gasglwyd yn ystod y prosiect yn ymwneud â pha mor fodlon y mae plant â'r cyfleoedd chwarae sydd ar gael iddynt, barn goruchwyliwr am ymddygiad, barn athro am lefelau canolbwyntio ac ymddiddori yn y gweithgareddau ar ôl amser cinio ac amgyffrediad rhieni/aelodau o'r gymuned o chwarae y tu allan i'r ysgol. Bydd iPads yn galluogi casglu data a dadansoddi mewn amser go iawn, a bydd yn offeryn cyflym a syml i bob cyfranogwr ei ddefnyddio. Caiff yr wybodaeth hon ei asesu i gyfeirio cynnydd a galluogi'r prosiect i fod yn ddynamig ac yn addas i anghenion y derbynwyr. Caiff pecyn cymorth chwarae ei gwblhau ar ddiwedd y prosiect i'w rannu ag ysgolion eraill i annog chwarae yn yr ysgol a sicrhau bod Hawl Plentyn i Chwarae (Erthygl 31 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. 

PDF icon

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£34,646
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Castell-nedd Port Talbot
Cwblhau:
Thema:
3
Mesur:
19.2
Community Play Worker Pilot

Cyswllt:

Enw:
Sophie Wright
Rhif Ffôn:
01639 873009
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts