Farmers testing the way for effective treatments

A ninnau ar drothwy tymor yr haf, mae ffermwyr cig eidion a defaid yn cael eu hannog i benderfynu'r amser gorau a'r ffordd orau i drin grŵp o anifeiliaid cyn defnyddio moddion lladd llyngyr.

Mae Cyfrifiadau Wyau Ysgarthol (FEC) yn ffordd ddefnyddiol o helpu i wneud penderfyniad ynghylch a oes angen triniaeth a pha foddion lladd llyngyr a fyddai’n effeithiol. Maen nhw hefyd yn rhoi gwybodaeth allweddol am halogiad y tir pori ar ffermydd cig eidion a defaid. 

Dechreuodd dau ffermwr o Geredigion, sy’n cymryd rhan ym mhrosiect Stoc+ Hybu Cig Cymru (HCC), gymryd samplau FEC eu hunain ym mis Awst 2019 ar ôl darllen am arferion gorau a phenderfynu profi pob grŵp o ŵyn ar wahân.  Mae Philippa a Gareth Davies yn rhedeg fferm deuluol yn Llangeitho ger Tregaron. Ar y fferm tir-isel 120 erw, maen nhw’n cadw diadell o oddeutu 300 o ddefaid Easycare a buches o wartheg ifainc. 

“Roedden ni wedi gwneud ychydig o samplu FEC yn y gorffennol, a dangosodd hynny fod gan y fferm ymwrthedd i White Drench.” meddai Philippa. 

“Ar ôl i ni ddechrau gwneud profion ein hunain, fe wnaethon ni gynnwys ein mamogiaid, hyrddod, ŵyn tew ac ŵyn sy’n cael eu cadw ar gyfer magu. Mae'r canlyniadau wedi ein helpu i benderfynu a ddylid dosio rhai grwpiau penodol neu aros am bythefnos a'u profi eto. Fe wnaethon ni ddarganfod yn gyflym nad oedd angen dosio ein mamogiaid a'n hyrddod yn rheolaidd, oherwydd bod eu cyfrif yn sero yn gyson." 

“Felly, rydyn ni’n defnyddio moddion i ladd llyngyr yr iau yn unig, yn hytrach na chyfuniadau, ar adegau allweddol o’r flwyddyn. Hefyd, does dim angen dilyngyru heblaw am adeg ŵyna pan fo llai o imiwnedd. Ers gwneud y profion FEC ein hunain, rydyn ni'n dosio'r ŵyn yn llai aml o lawer, ac mae hynny'n arbed amser ac arian i ni ac yn rhoi gwell dealltwriaeth o statws iechyd ein stoc."

“Os nad yw oen yn ffynnu, gallwn ni roi prawf i’r oen hwnnw’n unig. Os nad yw’r oen hwnnw’n dioddef o lyngyr, gallwn gydweithio â’r milfeddyg i chwilio am achosion eraill. Dydy gwneud profion FEC ddim yn waith pleserus, ond mae’n werth chweil oherwydd mae’n datgelu cymaint am iechyd eich hanifeiliaid ac yn arbed arian.”

Trwy'r prosiect Stoc+, mae HCC yn annog ffermwyr i gymryd agwedd ragweithiol tuag at iechyd anifeiliaid er mwyn gwneud y fferm yn fwy cynhyrchiol a phroffidiol. Mae ffermwyr yn cael eu hannog i gysylltu â'u milfeddyg i drafod profion FEC ac unrhyw brofion eraill a allai fod eu hangen ar y fferm.

I gael rhagor o wybodaeth am ymwrthedd i foddion lladd llyngyr, ewch i wefan HCC. Ar y wefan, hefyd, mae fersiwn dwyieithog o ganllaw SCOPS (Rheoli Parasitiaid mewn Defaid trwy Ddulliau Cynaliadwy), ar sut i wybod pa grŵp o foddion lladd llyngyr sy’n addas ar gyfer eich fferm chi.

Yn ogystal, mae SCOPS, Rheoli Llyngyr yn Gynaliadwy (COWS) a’r Gwasanaeth Gwybodaeth Gwladol am Iechyd Anifeiliaid (NADIS) yn darparu rhagolygon llyngyr a pharasitiaid sy’n nodi’r cyfnodau risg gwaethaf – ynghyd â gwybodaeth am driniaeth. 

Gwybodaeth am gyfrif wyau ysgarthol (FEC) - (saesneg yn unig) 

Mae Stoc+ yn un elfen o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch a chaiff gefnogaeth gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020, ac arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.