Mae dulliau biolegol o reoli plâu wedi dod yn ymarfer safonol i lawer o ffermydd garddwriaeth mwy sy’n cyflenwi archfarchnadoedd, ond nid yw eto’n ymarfer cyffredin i lawer o dyfwyr ffrwythau llai yng Nghymru. Mae dulliau rheoli biolegol yn golygu defnyddio ysglyfaethwyr naturiol, parasitiaid, bacteria, ac weithiau blanhigion i reoli plâu a chwyn fel rhan o raglen rheoli plâu integredig, yn bennaf mewn tai gwydr a thwnelau polythen. Mae gan lawer o dyfwyr ffrwythau bychain ddiddordeb mewn defnyddio’r dull hwn er mwyn gallu defnyddio llai o blaladdwyr confensiynol a lleihau’r siawns bod plâu yn datblygu ymwrthedd i'r plaladdwyr hyn. Y prif rwystr i dyfwyr bychain yw diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth o sut i adnabod plâu, pa ddulliau rheoli biolegol sydd ar gael, sut orau i'w defnyddio, a sut i'w hintegreiddio i'r rhaglen rheoli plâu a chlefydau sy’n cael ei defnyddio ar hyn o bryd. Fel rhan o'r prosiect hwn bydd gwahanol strategaethau rheoli plâu biolegol yn cael eu treialu ar ddwy fferm ffrwythau fasnachol yn ne-orllewin Cymru, gydag ardal dyfu gyfunol o oddeutu 1.3ha.
Bydd y prosiect yn rhedeg am ddwy flynedd o fis Ionawr 2020 tan fis Rhagfyr 2021.
Bydd y tyfwyr yn gweithio’n agos ag arbenigwyr i ddatblygu rhaglen a fydd yn addas i'w systemau tyfu nhw. Caiff yr union ddulliau a ddefnyddir eu dewis ar sail pa blâu sydd i'w cael ym mhob safle, fodd bynnag disgwylir y bydd o leiaf pedwar pla yn cael eu targedu. Bydd y tyfwyr yn cael hyfforddiant parhaus ar adnabod plâu, dulliau monitro, a dewisiadau rheoli biolegol. Ar ddiwedd y prosiect, cyhoeddir argymhellion arferion da ar gyfer y sector ehangach.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£40,000
- Ffynhonnell cyllid:
-
PAE
- Ardal:
-
Sir Benfro
- Cwblhau:
-
- Improving knowledge and experience of integrated pest control of soft fruit in Wales to reduce pesticide application and wastage
Cyswllt:
- Enw:
- Will John
- Cyfeiriad e-bost:
- Will.John@adas.co.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts