Pobl Ifanc CellB

Mae Covid-19 wedi creu amrywiaeth o heriau yn eu cymuendau ac felly bydd cynllun ‘Byw a Bod Yn Y Gymuned’ sy’n cael ei redeg gan Arloesi Gwynedd Wledig yn ceisio ymateb i hynny.

Bwriad y prosiect yw I grwpiau cymdeithasol recriwtio pobl ifanc yn eu cymunedau er mwyn iddynt adnabod yr heriau hynny dros gyfnod o 8 wythnos. 

Mae 6 grwp ar draws 5 cymuned yn cymryd rhan yn y prosiect sef Cwmni Bro a CellB o Flaenau Ffestiniog, Siop Griffiths ym Mhenygroes, Partneriaeth Ogwen ym Methesda, Menter y Plu yn Llanystumdwy ac Antur Aelhaearn yn Llanaelhaearn. Maent wedi recriwtio 18 person ifanc I adnabod yr heriau sy’n wynebu eu hardaloedd. 

Un o'r recriwtiaid yma yw Elin Roberts o Flaenau Ffestiniog. Roedd Elin ar ganol ei hail flwyddyn yn astudio gradd mewn gwyddorau gwleidyddol yn arbenigo yng ngwleidyddiaeth De America drwy gyfrwng y Ffrangeg a’r Sbaeneg yn Sciences Po Paris pan darodd y pandemig. Nawr mae hi a 2 berson ifanc arall o Blaenau yn yn gweithio gyda CellB i ymchwilio sut i wella mynediad a chyfleoedd i bobl ifanc sydd â'r siawns lleiaf o gael mynediad at y celfyddydau. 

Esboniodd Elin “Wedi cael fy magu yn ardal Ffestiniog, rwyf wedi gweld gyda llygaid fy hun y math o heriau sy’n wynebu pobl ifanc a’r gymuned ehangach. Credaf bod prosiect Byw a Bod yn un diddorol dros ben gan ei fod yn fy nghaniatau i edrych ar yr heriau ymhellach ac i geisio canfod datrysiadau. Teimlaf bod mynediad i’r celfyddydau yn elfennol gan ei fod yn fodd arall o ddysgu. Ond, erbyn heddiw gallwn ddadlau bod mynediad i’r celfyddydau yn rhywbeth ar gyfer y dosbarth elitaidd ac felly mae pobl ifanc o gefndiroedd di-freintiedig yn llai tebygol o gael mynediad i’r gwerthoedd hyn. Mae'n amser i ni edrych ar ffurf arloesol i sicrhau mynediad i'r celfyddydau i'r ifanc drwy edrych ar esiamplau o wahanol wledydd megis Ffrainc.”

Yn ogystal a gweithio yn eu cymunedau bydd y bobl ifanc hefyd yn cyfarfod yn rhithiol bob wythnos gyda mentor er mwyn ceisio adnabod heriau cyffredin sydd yn wynebu yr holl gymunedau, a ceisio datblygu ac adnabod datrysiadau.  Esboniodd Rhian Hughes o Arloesi Gwynedd Wledig:

“Mae’r bobl ifanc wedi darganfod gwahanol heriau yn eu cymunedau, ond yn ogystal maent wedi sylweddoli bod rhai heriau yn gyffredin ar draws yr ardaloedd. Heriau megis cyfleon gwaith, diffyg tai a’r economi leol.” 

Bydd y mentor yn rhoi arweiniad i’r bobl ifanc ar y broses o adnabod yr heriau, gan ymgymryd a thasgau fel holiaduron, cychwyn sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol, a cyfweld â rhanddeiliaid pwysig.

O ran datrysiadau byddent yn adnabod rhai posib, a ceisio treialu ambell ymateb.  Mae’n bosib yn y dyfodol y bydd rhai yn medru fod yn sail i weithgareddau pellach gan Arloesi Gwynedd Wledig.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd. 
 

Partneriaeth Ogwen