Bydd canlyniadau cyntaf un o raglenni blasu cig mwyaf y DU yn cael eu cyhoeddi mewn digywddiad rhithwir arbennig y mis hwn, gan ddatgelu dewisiadau cwsmeriaid Cig Oen Cymru PGI pan ddaw at blas a sawr.
Bydd canlyniadau llawn o’r paneli cyntaf yn cael eu datgelu yn rhan o rhith-ddarllediad y prosiect Ansawdd Bwyta Cig Oen Cymru; Dydd Llun Cig Oen Cymru: Y Golwyth Gorau ar y 28 Medi 2020.
Mae’r prosiect Ansawdd Bwyta Cig Oen Cymru yn edrych ar y ffactorau sy’n effeithio amrywiad mewn ansawdd cig, sy’n rhan o brosiect pum mlynedd, tri phrosiect Hybu Cig Cymru (HCC), y Rhaglen Datblygu Cig Coch (RMDP) sy'n ceisio helpu ffermio Cymru i baratoi ar gyfer marchnad fyd-eang gynyddol gystadleuol.
Ym mis Ionawr a Chwefror 2020, fe wnaeth bron i 500 brofi a sgorio saith darn o Gig Oen Cymru mewn tri sesiwn arbenigol ar draws y DU. Yn ystod cyfnod y prosiect, mi fydd bron i 2,000 o gwsmeriaid flasu a sgorio Cig Oen Cymru er mwyn sefydlu canllawiau ansawdd bwyta i hysbysu'r diwydiant yn well.
Bob blwyddyn, bydd gwahanol ffactorau sy'n gysylltiedig â’r fferm a’r proseswyr yn cael eu profi i werthuso'r effaith ar ansawdd bwyta. Archwiliodd y treial cyntaf hwn effeithiau triniaeth o dri math gwahanol o frîd (ŵyn mynydd, ŵyn croesfrid ac ŵyn terfynol), toriadau cig (dadansoddi lwyn, ochr orau’r forddwyd a’r pen bras) a rhyw’r oen (ymchwilio i ŵyn hwrdd ac ŵyn wedi’i hysbaddu) a'u heffaith ar ansawdd bwyta.
Esboniodd Dr Eleri Thomas, Swyddog Gweithredol Ansawdd Bwyta HCC, sy’n arwain ar y prosiect, “Fe wnaeth y treial cyntaf arddangos canlyniadau diddorol am hoffter blas a sawr cwsmeriaid yn ogystal â darparu gwybodaeth i’r diwydiant gyda mewnwelediad i barodrwydd cwsmeriaid i dalu."
“Mae’r adborth cwsmeriaid hyn yn hanfodol i’r fasnach gwasanaeth bwyd a’r fasnach manwerthu. Mae gwybodaeth ail-brynu a gwybodaeth am dueddiadau prynu cwsmeriaid yn werthfawr ond nid oes unrhyw beth gwell nag ymateb uniongyrchol, gonest defnyddwyr i gynnyrch.”
Bydd Dydd Llun Cig Oen Cymru: Y Golwyth Gorau yn llawn digwyddiadau rhithiol fydd i’w gweld ar Facebook HCC drwy gydol y dydd. Mae’r cyfranogwyr yn cynnwys: Elwen Roberts o HCC yn coginio dau bryd cig oen blasus, y cigydd Rob Rattray yn ein dysgu sut i dorri carcas oen a bydd Dr Linda Farmer, o Sefydliad Amaeth-Bwyd a Biowyddorau (AFBI) yn ymuno â Dr Eleri Thomas i ddatgelu canlyniadau llawn y flwyddyn gyntaf.
9:00yb | Cyflwyniad i brosiect Ansawdd Cig Oen Cymru |
11:00yb | Cig oen: barn y bobl |
1:00yh | Elwen Roberts yn coginio gwledd o gig oen |
5:00yh | Arddangosfa gigydda gyda Rob Rattray |
7:30yh | Eleri Thomas a Linda Farmer yn cyflwyno’r canlyniadau |
Cefnogir Prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.