Carefully manage lameness within the herd at housing

Wrth i wartheg gael eu rhoi dan do ar gyfer y gaeaf, mae ffermwyr yn cael eu cynghori i reoli achosion o gloffni yn ofalus.

Mae cloffni mewn gwartheg yn un o ystyriaethau allweddol o fewn prosiect Stoc+ Hybu Cig Cymru (HCC), sydd â’r nod o helpu ffermwyr yng Nhymru i gydweithio’n agos â'u milfeddygon ar gynllunio iechyd yn rhagweithiol. Gall cloffni amharu ar dwf, archwaeth a chynnyrch llaeth, yn ogystal â chael effaith andwyol ar ffrwythlondeb ac epil.  

Claire Jones, Vet Dolgellau

Mae Claire Jones o Filfeddygfa Dolgellau yn Lysgennad Milfeddygol i brosiect Stoc+ ac mae wedi rhoi cyngor ar sut i reoli cloffni.  

Dywed Claire Jones: “Wrth i’r gwartheg gael eu rhoi dan do, gall ffermwyr ystyried sawl peth – o ran rheolaeth a’r amgylchedd - a allai helpu i leihau nifer yr achosion o gloffni."

“Dylid ystyried a yw’r gwartheg yn gyfforddus, a oes ganddyn nhw ddigon o le i orwedd, a oes gormod o anifeiliaid gyda’i gilydd, a oes digon o le i’r gwartheg allu bwydo, troi ac yfed? Hefyd, mae glendid a bioddiogelwch yr adeilad yn hollbwysig wrth atal cloffni heintus fel dermatitis byseddol rhag ymledu.”

Yn aml mae modd rheoli cloffni nad yw’n heintus wrth newid amgylchedd y fuwch.  Mae cloffni o’r fath yn cynnwys cloffni sy’n cael ei achosi wrth gerdded ar gerrig rhydd neu lawr anwastad.

Ychwanega Claire: “Mae’n bwysig dros ben i gael gwared ar unrhyw bethau fel hyn yn y sied lle mae gwartheg yn cael eu cadw er mwyn rheoli cloffni. Hefyd, mae’n hollbwysig fod gwartheg dan do yn cael y porthiant cywir ac mewn iechyd da i wneud yn siŵr fod ganddyn nhw garnau da a system imiwnedd effeithiol.”

Lowri Williams

Dywed Lowri Williams, Swyddog Iechyd Praidd a Buches HCC: “Mae gwaith Stoc+ wedi dangos fod lleihau cloffni yn flaenoriaeth ar lawer o ffermydd cig eidion yng Nghymru. Dylai ffermwyr sydd am gael cyngor pellach ar sut i adnabod a thrin achosion o gloffni yn eu gwartheg gael gair â milfeddyg y fferm, tociwr carnau neu ymgynghorydd cymwysedig.”

Mae Stoc+ yn un o dri phrosiect pum-mlynedd yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig  2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru