Menter Moch Cymru

Bydd cynhyrchwyr ar draws Cymru yn cael hwb marchnata, diolch i gynnydd yn y cymorth sydd ar gael gan Menter Moch Cymru.

Fel rhan o'r ystod eang o gyngor a chymorth busnes sydd ar gael i fentrau moch, bydd Menter Moch Cymru yn cynyddu swm ei grantiau presennol i ddatblygu deunyddiau hyrwyddo wedi'u brandio, o £500 i £750.

Mae'r fenter yn galluogi cynhyrchwyr i fabwysiadu ymagwedd ymarferol, gan weithio gyda chwmni dylunio cymeradwy i ddatblygu deunyddiau hyrwyddo pwrpasol fel taflenni, labeli, deunydd pacio, hysbysebion digidol a gwaith graffig.

Dywedodd Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru, “O ystyried y sefyllfa bresennol o ganlyniad i Covid-19, mae mwy o angen fyth i gynhyrchwyr ddefnyddio cymaint o ddulliau marchnata ag y bo modd i ehangu nifer eu cwsmeriaid ac i dynnu sylw at eu cynhyrchion a'u gwasanaethau. Trwy wneud hyn, byddant yn codi ymwybyddiaeth o ansawdd ac argaeledd porc o Gymru hefyd."

“Rydym yn byw mewn cyfnod nas gwelwyd ei debyg erioed o'r blaen, felly teimlwn bod y cynnydd hwn o ran y cymorth i gynhyrchwyr yn amserol ac yn adlewyrchu pwysigrwydd cynyddol cael hunaniaeth brand cadarn sy'n adlewyrchu ansawdd a tharddiad eu porc mewn ffyrdd sy'n ddeniadol i ddefnyddwyr.”

Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. 

Rhagor o wybodaeth am Menter Moch yma: www.mentermochcymru.co.uk