Cyfarfod fideo yn dangos cyfranogwyr

Y mis hwn, cynhaliwyd noson arbennig ar-lein i ddathlu a rhannu gwaith cyfranogwyr y prosiect, ‘Cerddi Cymunedol’.  

Prosiect o dan arweinyddiaeth Canolfan S4C Yr Egin yw ‘Cerddi Cymunedol’ mewn cydweithrediad â’r Mentrau Iaith yn Sir Gâr sef Menter Cwm Gwendraeth Elli, Menter Dinefwr a Menter Gorllewin Sir Gâr ynghyd â chwmni theatr i bobol ifanc ‘Mess up the Mess’.  

Bu’r prosiect, sydd wedi’i gyllido trwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen datblygu Gwledig Cymru 2014 -2020, yn gyfle i 35 cyfranogwr lleol gael lle diogel i rannu, creu, datblygu sgiliau ac i fwynhau yng nghwmni ei gilydd fel cymuned yn ogystal â chael cwmni a chlywed arbenigedd beirdd proffesiynol.  

Ar y noson, o dan arweiniad creadigol Swyddog Ymgysylltu Yr Egin, Llinos Jones, cyflwynwyd pedair cerdd gymunedol newydd sbon gan y cyfranogwyr.

Dangoswyd y cerddi mewn fformat fideo a oedd wedi’i greu gan y talentog, Nia Ann Jones. 

Yn dilyn y digwyddiad dywedodd Llinos Jones:   

 “Pleser mawr oedd cael profi a dathlu gwaith yr holl gyfranogwyr mewn noson mor hwylus ar lein yn fyw o’r Egin. Mor braf oedd galluogi dod â chymunedau o wahanol ardaloedd ynghyd i ddangos a rhannu ei gwaith.

Mae gwaith ymgysylltu a chyfranogi wedi newid ei ffurf yn sylweddol dros y misoedd diwethaf, fel sawl peth arall yn ein bywyd, ond yr hyn sydd yn gwneud y gwaith yma mor, mor arbennig ydi, ei bod dal yn gallu cysylltu, rhannu a chreu, a chynnig cyfleoedd i unigolion ella na fysa wedi bachu ar y cyfle heb fod clo mawr yn bodoli.

Hoffwn ddiolch o galon i bawb am fod yn rhan o’r creu a rhan o’r dathlu, gan edrych ymlaen at gyfarfod wyneb yn wyneb pan fydd y rheolau yn caniatáu i ni wneud hyn.

Wrth edrych ymlaen a chynllunio ar gyfer y flwyddyn newydd gobeithiaf y bydd modd parhau i roi Yr Egin yng nghalon Cymunedau, a pharhau i gefnogi a datblygu sgiliau a rhoi profiadau newydd creadigol a digidol i lawer iawn mwy o bobol.”

Mae Nia Ap-Tegwyn yn Uwch Swyddog Iaith gyda Menter Gorllewin Sir Gâr.  

Wrth drafod y prosiect, meddai:

“Roedd hi’n hyfryd gweithio gyda Chanolfan Yr Egin ar y prosiect Cerddi Cymunedol nôl ym Mehefin a Gorffennaf ac yn wych ein bod yn gallu cynnig rhywbeth mor wahanol i bobl yr ardal wneud.”

“Roedd e’n gyfle i bawb drafod effeithiau a theimladau’r cyfnod clo gan gefnogi’i gilydd.  Er nad oeddent yn ‘nabod ei gilydd cyn ymuno â’r prosiect, roedd pawb wedi asio a datblygu cyfeillgarwch unigryw yn ystod y sesiynau. Roedd y noson i lansio’r cerddi yn arbennig a theimladwy ac roedd pawb wedi mwynhau’r cyfle yn fawr.  Mae’r fenter yn edrych ymlaen at gydweithio eto yn y dyfodol agos.’ atega.”  

Roedd y prosiect yma hefyd yn gyfle i weithio gyda beirdd proffesiynol er mwyn i’r cyfranogwyr cael eu sbarduno, ysbrydoli ac i ddysgu sgiliau newydd. 
Ymysg y beirdd proffesiynol hyn oedd y bardd ifanc lleol, Megan Hâf Davies, sy’n ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Aman.  Bu Megan yn cydweithio gyda Menter Bro Dinefwr a phobol ifanc o gwmni theatr ‘Mess up the Mess.’  

Ychwanegodd:

“Oedd hi wir yn fraint cael cyd-weithio efo Menter Bro Dinefwr ac Yr Egin ar y prosiect yma ac rwyf yn ddiolchgar iawn i gael cyfleoedd fel hyn. 
Roeddwn i wrth fy modd wrth ysgrifennu’r cerddi a mwynheais gwmni’r cyd-weithwyr yn fawr iawn! Fel un o’r Cymry ifanc mae’r cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan holl bwysig yn fy mywyd, a chredaf ei bod yn sylfaen gwych i rannu gwaith creadigol. Mae creadigrwydd yn bwysicach nawr nag erioed, a gobeithiaf yn arw y caf gyfle i gyfansoddi ochr yn ochr â chi unwaith eto yn y dyfodol.”

Cafodd Menter Gorllewin Sir Gâr y fraint o gwmni Tudur Dylan Jones a chafodd grŵp o ddysgwyr hwyliog o Fenter Cwm Gwendraeth Elli'r cyfle i ddysgu a chreu o dan arweiniad Aneirin Karadog.  

Roedd y cyfnod creu yn gyfle i dreulio amser i rannu teimladau, emosiynau a bywyd yn ystod y cyfnod clo mawr gyda 11 sesiwn ar-lein. 
Yn rhan o griw cymunedol Menter Gorllewin Sir Gâr oedd Lleucu Edwards.  

Nododd:

“Cafwyd noson arbennig iawn ar y 12fed o Dachwedd. Cefais foddhad mawr yn gweld y pedair cerdd mewn fideo wedi cael ei wneud gan Nia Ann mor hyfryd. 

Roeddwn yn teimlo yn emosiynol wrth wylio'r cerddi gan eu bod yn gerddi oedd wedi cael eu hysgrifennu dros gyfnod anodd. Mi wnes i wir fwynhau'r profiad o gael cydweithio gyda chriw Yr Egin a Menter Gorllewin Sir Gâr i gael rhannu profiadau dros y cyfnod ac ysgrifennu'r gerdd. Diolch i Llinos am gydlynu'r cwbl ac am y cyfle i gael bod yn rhan o brosiect arbennig a llwyddiannus dros ben.”

Mae'r holl gerddi ar gael i chi fwynhau ar sianel YouTube a chyfryngau cymdeithasol Canolfan S4C Yr Egin.