Cover Image

Mae canllaw cyfeirio cynhwysfawr ar gyfer y rhai sy’n newydd i ffermio moch yng Nghymru wedi cael ei lansio gan Menter Moch Cymru.

Mae’r canllaw manwl 26 tudalen o hyd yn berthnasol i’r sector moch yng Nghymru yn benodol, a dyma’r canllaw cyntaf o’i fath. Yn 2019 roedd bron i 24,500 o foch yn cael eu cadw ar ffermydd yng Nghymru, ac mae'r canllaw wedi cael ei greu i fodloni anghenion y sector a’r diddordeb cynyddol mewn cadw moch.

Gallwch weld y canllaw am ddim ar wefan www.mentermochcymru.co.uk ac mae’n cynnwys llawer o wybodaeth a chyngor ar gyfer ffermwyr moch newydd, ac mae hefyd yn adnodd cyfeirio defnyddiol ar gyfer cynhyrchwyr profiadol.

Mae’r canllaw yn trafod 14 pwnc, o eni perchyll i fwyd a maeth, gwybodaeth sylfaenol ynglŷn ag iechyd a lles, yn ogystal â deddfwriaeth hanfodol ar gyfer cadw moch.

Meddai Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru, “Rydyn ni wedi creu canllaw defnyddiol ar gyfer ffermwyr moch yng Nghymru. Mae’r canllaw yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol ac ymarferol, p’un a ydych chi’n pesgi ychydig o foch neu’n ystyried bridio moch. Mae'n ganllaw cynhwysfawr sy'n ymdrin ag ystod o bynciau.”

Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Ymhlith defnyddwyr cyntaf y canllaw oedd y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol yng Nghystadleuaeth Pesgi Moch Menter Moch Cymru a CFfI Cymru 2020, gan gynnwys enillydd y gystadleuaeth, Teleri Evans.

Dywedodd Teleri, “Fel un sy’n newydd i ffermio moch, mae’r canllaw hwn wedi bod yn amhrisiadwy. Mae yna lawer i'w ddysgu, ond mae'r canllaw yn eich tywys trwy bopeth gam wrth gam. Os oes gen i unrhyw gwestiynau pellach, dim ond codi’r ffôn i siarad gydag un o staff Menter Moch Cymru sydd ei angen, ac mae eu cefnogaeth wedi bod yn wych.”

Mae Menter Moch Cymru yn gweithio gyda phob sector o'r gadwyn gyflenwi i ddatblygu diwydiant moch mwy cynaliadwy, proffidiol a chadarn yng Nghymru.