Beef tasting

Gellir cwblhau’r arolwg ar-lein ar: http://www.beefq.wales/survey.html

Mae cig eidion Cymru yn enwog am ei briodweddau allanol gan gynnwys tarddiad, systemau cynhyrchu, lles ac ôl troed carbon. Fodd bynnag, nid yw’r cyfuniad hwn bob amser yn gwarantu profiad cyson i’r rheini sy’n ei fwyta. Mae prosiect BeefQ yn datblygu system y gellir ei defnyddio i ragfynegi ansawdd bwyta cig eidion er mwyn sicrhau pryd o fwyd boddhaol i fwytawyr a gwobrwyo ffermwyr am gynhyrchu cig eidion o ansawdd bwyta rhagorol.

Yn ystod dwy flynedd diwethaf prosiect BeefQ, mae’r gwaith wedi canolbwyntio ar ddisgrifio nodweddion carcasau mewn lladd-dai yng Nghymru a datblygu’r dulliau i ragfynegi ansawdd bwyta cig eidion sy’n seiliedig ar system rhagfynegi ansawdd bwyta Safonau Cig Awstralia (MSA) ond sy’n cael ei ddilysu gan ddefnyddio samplau cig eidion o’r DU a phrofion blasu i ddefnyddwyr.

Mewn paneli blasu i ddefnyddwyr a gynhaliwyd yn 2019/20, rhoddwyd 7 sampl o gig eidion o ansawdd bwyta disgwyliedig amrywiol i ddefnyddwyr gan ofyn iddynt eu sgorio (ar raddfa o 0-100) o ran tynerwch, suddlonder, hoffter o’r blas a hoffter cyffredinol. Gofynnwyd iddynt hefyd a oeddent o’r farn fod y gwahanol samplau o ansawdd anfoddhaol, ansawdd da pob dydd, gwell nag ansawdd pob dydd neu o’r ansawdd gorau a faint y byddent yn fodlon ei dalu am gig eidion o bob un o’r rhain.

Roedd y gwaith hwn yn datgelu bod tystiolaeth gref y gall defnyddwyr yng Nghymru a Lloegr wahaniaethu’n glir rhwng ansawdd bwyta cig mewn 4 categori penodol, o anfoddhaol i’r ansawdd gorau. Dangosai’r canlyniadau hefyd fod y defnyddwyr yn yr astudiaeth yn rhoi gwerth uchel ar ansawdd bwyta ac yn fodlon talu llai am ansawdd gwael (h.y. roeddent yn llai parod i oddef  ansawdd bwyta gwael ym mhen isa’r raddfa) ond yn fodlon talu premiwm uchel (hyd at ddwbl) am gig eidion o’r ansawdd gorau (Tabl 1.). 

Tabl 1.  Parodrwydd defnyddwyr BeefQ i dalu am ansawdd bwyta cig eidion

  Anfoddhaol Ansawdd da pob dydd Gwell nag ansawdd pob dydd Yr ansawdd gorau
Pris (£/kg) £4.25 £9.99 £15.42 £22.09
% o bris ansawdd da pob dydd 42.5% 100% 154.4% 221.1%

Gall model rhagfynegi ansawdd bwyta cig eidion BeefQ arwain at safon warantedig o ansawdd bwyta a chynnydd yn hyder defnyddwyr yng nghig eidion Cymru, yn ogystal â gwobrwyon cysylltiedig i ffermwyr.

Gyda’r gwaith yma bellach wedi’i orffen yn llwyddiannus, mae’r prosiect yn cyrraedd cyfnod newydd a hollbwysig - sef ymgynghori â’r diwydiannau amaeth a bwyd yng Nghymru a’r DU yn ehangach. Bydd tîm prosiect BeefQ felly yn annog unrhyw un sy’n gweithio yn y gadwyn cyflenwi eidion (ffermwyr, lladd-dai, cigyddion, manwerthu), ynghyd â’r sectorau arlwyo a lletygarwch, i gwblhau arolwg byr ar-lein y bydd yr ymatebion iddo’n cyfrannu at argymhellion ynghylch dichonoldeb y system, os a sut y gellid ei rhoi ar waith a’r rhwystrau a ragwelir wrth wneud.