Mae prosiect iechyd anifeiliaid yng Nghymru wedi cynnal cyfres o ddigwyddiadau  i filfeddygon ynghylch rheoli llyngyr i wneud yn siŵr fod gan ddefaid ar ffermydd yng Nghymru yr iechyd gorau posibl a’u bod hefyd mor broffidiol â phosibl.

Mae Stoc+, prosiect iechyd praidd a buches sy’n cael ei redeg gan Hybu Cig Cymru (HCC), yn gweithio gyda ffermwyr a’u milfeddygon i hyrwyddo rheoli iechyd anifeiliaid yn rhagweithiol.  

Mae’n un elfen o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch, sef menter dros gyfnod o bum mlynedd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd i wella’r sector cig coch yng Nghymru. 

Fel rhan o’r prosiect, mae ffermwyr a’u milfeddygon yn cydweithio i nodi blaenoriaethau ac argymhellion allweddol ynghylch rheoli iechyd ar y fferm, a datblygu cynllun gweithredu penodol sy’n unigryw i’r fferm.

O blith y ffermydd sy’n rhan o Stoc+, mae 46% wedi cynnwys rheoli llyngyr mewn defaid fel un o’u blaenoriaethau ar gyfer eu praidd. Mewn ymateb i hyn, trefnodd y prosiect gyfres o ddigwyddiadau Hyfforddi’r Hyfforddwr i rannu gwybodaeth broffesiynol a chyfoes â milfeddygon yng Nghymru i’w helpu i gynnig cyngor pellach ar y ffermydd y sy’n eu defnyddio.

Lesley Stubblings

Yn rhannu cyngor arbenigol â’r milfeddygon roedd yr ymgynghorydd defaid annibynnol, Lesley Stubbings. Mae Lesley yn flaenllaw yn sector defaid y DU oherwydd ei gwybodaeth ac arbenigedd ym mhob agwedd ar y diwydiant, ond yn enwedig mewn perthynas â maeth defaid a rheoli parasitiaid.

“Mae’n galonogol fod y grŵp hwn o filfeddygon wedi cymryd rhan yn y cwrs,” meddai Lesley. “Roedden nhw’n frwdfrydig, yn wybodus ac yn weithgar iawn o ran rheoli parasitiaid trwy ddulliau cynaliadwy ar ffermydd defaid. Rwy’n cymell ffermwyr defaid yng Nghymru i fanteisio ar eu harbenigedd er mwyn eu helpu i reoli parasitiaid yn ymarferol fel rhan o’r cynlluniau iechyd ar gyfer eu preiddiau.”

Roedd Gareth Mulligan o Filfeddygon Afon yng Nghastell-nedd yn un o’r milfeddygon a fynychodd y digwyddiadau hyfforddi. Dywedodd: “Yn aml, yr hyn sydd fwyaf defnyddiol mewn datblygiad proffesiynol parhaus yw’r drafodaeth sy’n digwydd ynglŷn â’r deunydd dysgu, rhwng milfeddygon a’r rhai sy’n cynnal y cwrs. Mae hyn o wir werth wrth ddelio â phwnc ymarferol fel rhoi’r wybodaeth a’r arweiniad diweddaraf am strategaethau dilyngyru ar gyfer defaid.

Y gobaith yw y bydd Stoc+ yn cynnal digwyddiadau Hyfforddi’r Hyfforddwr ynglŷn â phroblemau eraill mewn preiddiau a buchesi yn ddiweddarach eleni. 

Mae Stoc+ yn un o dri phrosiect pum-mlynedd yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig  2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.