Mae gan Gymru fantais aruthrol yn ei gallu i dyfu llawer iawn o laswellt o ansawdd da. O’i reoli’n gywir, mae glaswellt sy’n cael ei bori yn rhoi porthiant o ansawdd da i anifeiliaid, yn lleihau’r angen i ddefnyddio gwrtaith nitrogen, yn gallu cadw carbon yn y pridd ac mae’n cael ei gysylltu ag elw uwch cyson ar ffermydd.

Nod Prosiect Porfa Cymru yw darparu gwybodaeth a chyngor rheoli ar sail tueddiadau tyfu glaswellt gwahanol ardaloedd, a gofnodwyd yn ofalus gan y ffermwyr ymroddedig sy’n rhan o’r prosiect. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwella eich dulliau rheoli pori OND ddim yn mesur glaswellt ar hyn o bryd, dyma’r prosiect i chi!

Bydd y wybodaeth yn eich helpu i wneud penderfyniadau amserol am reoli glaswelltir ar y fferm megis:

  • A ddylwn droi’r da byw allan?
  • A ddylwn gau’r caeau ar gyfer silwair?
  • A ddylwn ychwanegu porthiant clustogi?
  • A ddylwn chwalu gwrtaith yr wythnos hon?
  • A ddylwn ddiddyfnu fy ŵyn?

Dengys gwaith ymchwil bod ffermwyr sy’n rheoli glaswellt yn dda mewn sefyllfa fwy cadarn bod ffermwyr sy’n rheoli glaswellt yn dda yn fwy proffidiol ac yn gallu gwrthsefyll sgil-effeithiau’r tywydd yn well.

Mwy o ffermydd a mwy o gyfraddau twf ar gyfer 2021!

Ar gyfer 2021, rydym wedi cynyddu nifer y ffermydd i 49. Ceir amrywiol systemau, mathau o dir a lefelau profiad ymysg y ffermydd a’r ffermwyr a bydd pob un ohonynt yn mesur twf eu glaswellt bob 7 i 14 diwrnod rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd.

Eleni mae gennym:

  • Nifer y ffermwyr biff a defaid: 29
  • Nifer y ffermwyr llaeth: 20

Os gwelwch fferm yn yr un ardal â chi, cadwch olwg ar dwf eu glaswellt, mae’n debygol y bydd tueddiad tyfu tebyg yn digwydd ar eich fferm chi! Bydd hyn yn eich helpu i wneud penderfyniadau rheoli rhagweithiol ar eich fferm eich hun.

Ffermwyr glaswellt arbenigol

Yn newydd ar gyfer 2021, mae gennym bedwar o arbenigwyr pori!

Dewiswyd y pedwar ffermwr hyn oherwydd eu gwybodaeth a’u sgiliau rheoli glaswelltir ardderchog i roi inni olwg ar eu systemau ac i roi gwybodaeth am wneud penderfyniadau amserol dros y flwyddyn.

  • Ianto Pari - Ffermwr biff a defaid - Gwynedd
  • Rhys Williams - Ffermwr llaeth – Gwynedd
  • Andrew Giles - Ffermwr llaeth - Powys
  • Bleddyn Davies - Ffermwr defaid - Ceredigion

Lansio'r prosiect: Cyhoeddir y set gyntaf o nodiadau rheoli ar 11 Mawrth. Cofiwch gadw golwg ar wefan a chyfryngau cymdeithasol Cyswllt Ffermio fel na fyddwch yn eu methu nhw! Chwiliwch ar-lein am #ProsiectporfaCymru

 

 

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.