![Agri bill](/walesruralnetwork/sites/walesruralnetwork/files/styles/post_full/public/images/copyright%20free%20-%20sheep%20grazing_2.jpg?itok=I0xeNAVo)
Rydym wedi cyhoeddi ymgynghoriad Papur Gwyn sy'n nodi cynlluniau ar gyfer cam nesaf y polisi amaethyddol yng Nghymru. Mae'r papur yn gosod y cefndir ar gyfer Bil Amaethyddiaeth (Cymru) a fydd yn cael ei gyflwyno yn nhymor nesaf y Senedd.
Mae'n cymryd rhai o'r syniadau a gyflwynwyd gennym yn "Ffermio Cynaliadwy a'n Tir" ac yn adeiladu arnynt, yn dilyn yr ymatebion a gawsom.
Rydym yn croesawu eich barn ar hyn ac yn eich annog i ymateb i'r ymgynghoriad cyn iddo ddod i ben ar 26 Mawrth 2021.
Linc i'r ymgynghoriad yma: https://llyw.cymru/bil-amaethyddiaeth-cymru