Mae nifer o gyfleoedd o fewn systemau ffermio’n seiliedig ar y borfa a allai helpu i wyrdroi dirywiad yn niferoedd adar tir fferm. Yn ystod y prosiect dwy flynedd a hanner hwn, bydd un ffermwr llaeth yn Sir Ddinbych ac un ffermwr defaid yng Nghonwy yn gweithio’n agos gyda’r Ymddiriedolaeth Anifeiliaid Hela a Chadwraeth Bywyd Gwyllt (GWCT) i ymchwilio i weld a allai darparu cynefin ynghyd â bwyd ychwanegol dros y gaeaf helpu i gynyddu niferoedd adar tir fferm.
Ar ddechrau'r prosiect, byddant yn ystyried yn ofalus pa gnydau gorchudd i’w defnyddio ar bob fferm, ynghyd â lle i’w plannu. Mae’r cnydau gorchudd hyn wedi’u llunio i fodloni gofynion y ddwy fferm, ynghyd â darparu bwyd dros y gaeaf ar gyfer adar tir fferm sy’n bwyta hadau, a darparu cysgod rhag ysglyfaethwyr a thywydd garw ar gyfer llu o fywyd gwyllt arall. Bydd ardaloedd bwydo adar hefyd yn cael eu gosod ar draws y ddwy fferm a fydd yn darparu bwyd ychwanegol i’r adar dros y gaeaf. Gobeithio y bydd bwydo atodol yn lleihau nifer y marwolaethau dros y gaeaf ac yn sicrhau poblogaeth fridio uwch ymhlith yr adar llawn dwf yn y gwanwyn canlynol. Yn dilyn hynny, bydd arolygon yn cael eu cwblhau trwy gydol y prosiect i gofnodi niferoedd adar a pheillwyr er mwyn dadansoddi effaith y dulliau hyn.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£39,727
- Ffynhonnell cyllid:
-
PAE
- Ardal:
-
Sir Ddinbych
- Cwblhau:
-
Cyswllt:
- Enw:
- Matthew Goodall
- Cyfeiriad e-bost:
- mgoodall@gwct.org.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts