Rams

Mae gan ddiadelloedd mynydd masnachol Cymru gyfle i ymuno â chynllun arloesol i wella geneteg defaid drwy brofi hyrddod â chofnodion perfformiad dan amodau masnachol.

Mae Cynllun Hyrddod Mynydd Hybu Cig Cymru (HCC) yn chwilio am ddiadelloedd masnachol o Gymru i ymuno â’r prosiect i gymharu perfformiad dau hwrdd gyda grŵp dethol o famogiaid mynydd sy’n cael eu monitro am berfformiad. 

Bydd diadelloedd masnachol yn gallu mynegi diddordeb rhwng 3 Mai 2021 a 21 Mai 2021.

Mae’r Cynllun Hyrddod Mynydd yn un elfen o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch, sef menter bum-mlynedd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd i wella’r sector cig coch yng Nghymru.

Un o fuddion y prosiect newydd yw y bydd ffermwyr yn gallu gweld pa rai o'u hyrddod sydd wedi cynhyrchu ŵyn a mamogiaid sy'n perfformio'n dda ar eu ffermydd. Trwy gyfrwng y data a gynhyrchir, gall ffermwyr ddewis yr eneteg orau ar gyfer eu diadelloedd yn y dyfodol. Mae hyn yr un mor bwysig i ffermwyr â diadelloedd mynydd masnachol ag i'r rhai sy'n cynhyrchu stoc magu i’w gwerthu.

Un o amcanion y Cynllun yw dangos gwerth mesur perfformiad diadelloedd Cymru, a buddion gwelliant genetig i ddiadelloedd mynydd masnachol.

Sean Jeffreys

Dywedodd Sean Jeffreys, Swyddog Rhaglen HCC sy'n gweithio ar y Cynllun Hyrddod Mynydd: “Bydd rhaid i'r diadelloedd perfformiad masnachol ddewis y cant o famogiaid sydd orau, yn eu tyb nhw, ar gyfer y system ddefaid. Yna bydd y defaid hyn yn cael eu rhannu'n gyfartal yn ddau, gydag un grŵp yn cael hwrdd â chofnodion perfformiad, a'r ail yn cael hwrdd stoc heb gofnodion. Mae'n hanfodol bod y grwpiau, ar ôl cael hwrdd, yn cael eu rheoli yr un fath, er mwyn gallu gwneud cymhariaeth ddibynadwy."

“Bydd y diadelloedd yn cael cefnogaeth y tîm Cynllun Hyrddod Mynydd ar adegau perthnasol a byddan nhw’n derbyn hyfforddiant a gweithdai i gynorthwyo gyda’r gwaith a gweithgareddau a ddisgwylir gan y ffermwyr.”

Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae’n ei olygu o fod yn ddiadell  berfformiad masnachol gyda’r Cynllun Hyrddod Mynydd, ynghyd â mynediad i’r ffurflen mynegi diddordeb,  ar gael ar wefan HCC.

Mae’r Cynllun Hyrddod Mynydd yn un o dri prosiect pum-mlynedd yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig  2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.