Lleoliad:
Prosiectau Cydweithredu Cymru
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£54000.00

Disgrifiad o’r Prosiect:

Cymeradwywyd Prosiect Cymorth Covid-19: Sefydliadau Gweithredu Cymunedol gan bob un o'r tri GGLl ym mis Mawrth 2020, yn yr un modd ag yr oedd y broses gloi yn cael ei rhoi ar waith ac yr oedd graddfa fawr y pandemig Covid-19 yn dechrau cael ei deimlo. Mae'n brosiect Cydweithredu gwerth £54,000 wedi'i ariannu 100% ac yn gweithredu ar draws ardaloedd gwledig Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

Beth fydd y prosiect yn ei gyflawni?

Mae'n gweithio gydag endidau cyfreithiol dielw: mentrau cymdeithasol, elusennau, mentrau cymunedol, a sefydliadau ac asiantaethau'r sector cyhoeddus.

Pwy fydd yn elwa ar y prosiect?

Cymunedau yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam

Beth oedd canlyniad eich prosiect?  

Tîm newydd ‘Llesiant Cymunedol’ Tai Clwyd Alyn i’w cynorthwyo i addasu eu dulliau i roi’r gefnogaeth orau i drigolion Gogledd Cymru sydd wedi eu heffeithio’n andwyol gan y pandemig COVID-19. Yn rhan o’r tîm mae swyddogion cymunedol a chyngor am arian/hawliau lles. Mae wedi ei sefydlu i ddarparu gwasanaeth i drigolion agored i niwed mewn tai cymdeithasol sydd yn byw mewn tlodi. Bydd y peilot yn profi ymagwedd arloesol o ddarparu gwasanaethau sylfaenol anstatudol i bobl agored i niwed yng nghyd-destun y pandemig a’r mesurau cyfyngiadau symud. Yn benodol, mae’r tîm llesiant newydd yn helpu trigolion agored i niwed drwy:

  • Fynd i’r afael ag ynysu cymdeithasol sydd wedi ei achosi gan hunanynysu
  • Cyfeirio trigolion at grwpiau cymunedol sydd yn gallu eu cynorthwyo i gael mynediad at fwyd/nwyddau brys a/neu bresgripsiynau.
  • Cynnig cyngor pwrpasol am arian i drigolion difreintiedig sydd wedi eu heffeithio’n andwyol gan y Coronafeirws.
  • Adeiladu gwydnwch cymunedol drwy gysylltu trigolion â rhwydweithiau lleol a gwasanaethau cymorth.
  • Gwella canlyniadau iechyd/lles ar gyfer grwpiau ffiniol drwy ein cymorth teleffon ni ein hunain a hwyluso mynediad at wasanaethau pwrpasol eraill sydd fwyaf perthnasol i anghenion/gofynion unigryw trigolion.
  • Sicrhau bod y wybodaeth yn hygyrch i bawb drwy roi gwybod i bobl drwy ystod eang o gyfryngau sydd fwyaf addas i’w hanghenion unigryw ble mae cymorth perthnasol ar gael.

Mae Cyngor Tref Treffynnon yn rhedeg menter unigryw i gefnogi grwpiau cymunedol a mentrau sydd yn cefnogi pobl agored i niwed a’r rhai hynny sydd wedi eu hynysu o ganlyniad i’r pandemig Covid-19 a mesurau cyfyngiadau symud y llywodraeth. Mae’r grwpiau lleol, mentrau cymdeithasol a’r elusennau sy’n weithgar yn yr ardal yn ymgymryd â thasgau amrywiol; megis casglu a dosbarthu parseli bwyd, casglu a dosbarthu’r post a pharseli eraill, casglu a dosbarthu presgripsiynau, a mynd ar negeseuon amrywiol eraill. Ymysg y grwpiau yma mae: Danny’s, Pen y Maes Graig, Llafur Cymru, Undeb Credyd, grwpiau busnes, ysgolion a banciau bwyd, a llawer mwy. Yn ychwanegol at gefnogi gwirfoddolwyr rhagorol y dref, mae Cyngor y Dref – gyda’u Swyddog Prosiect a Datblygu, Clerc y Dref, 4 o aelodau wardiau allweddol a’r Cynghorwyr Sir – wedi chwarae rhan weithredol gyda’r cydlynu, prynu offer, dosbarthu dyddiol, casgliadau, rhannu a hyrwyddo bwletinau gwybodaeth dyddiol.

Mae Canolfan Enfys, Llannerch Banna, mewn safle delfrydol i ymateb i’r pandemig COVID-19 am ei bod yn ganolfan gofal dydd sydd wedi ei hen sefydlu ac sydd yn weithgar iawn ymysg cymunedau lleol ym Marchwiail, Bangor Is-y-coed, Owrtyn, Llannerch Banna a Holt.
Yn ystod yr argyfwng Covid 19 cysylltodd dwsinau o wirfoddolwyr â hwy yn awyddus i’w cynorthwyo gyda’r gwaith o ddosbarthu’r gwasanaeth pryd ar glud cyfredol a chefnogi unigolion sydd wedi eu hynysu drwy gasglu eu siopa a’u presgripsiynau.
Trwy gyllid LEADER, mae’r ganolfan yn cyflogi Cydlynydd Gwirfoddolwyr i’w cefnogi dri diwrnod yr wythnos ac mae’r ganolfan hefyd yn darparu Cyfarpar Diogelu Personol ar gyfer y gwirfoddolwyr. 
 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Lowri Owain
Rhif Ffôn:
01490340500
Email project contact